Clwb karate wedi ei sefydlu i helpu gofalwyr ifanc

  • Cyhoeddwyd
Bethan Owen gyda'i thad, Garry
Disgrifiad o’r llun,
Fe wnaeth rhieni Bethan ei chyflwyno hi i'r gamp pan oedd hi'n saith oed

Mae gofalwr ifanc o Sir Ddinbych wedi cael ei disgrifio fel "ysbrydoliaeth" ar ôl sefydlu ei chlwb karate ei hun i helpu gofalwyr ifanc eraill.

Fe wnaeth Bethan Owen o Fodelwyddan sefydlu Academi Karate Bethan ar ôl dechrau fel hyfforddwr yn 12 oed.

Yn ddisgybl yn Ysgol Emrys ap Iwan yn Abergele, mae Bethan wedi bod yn gofal am ei mam, sydd yn dioddef o epilepsi, ers oedd hi'n bump oed.

Fe wnaeth ei rhieni gyflwyno hi i'r gamp pan oedd hi'n saith oed i roi ffocws iddi i ffwrdd o'i chyfrifoldebau fel gofalwr.

Mae clwb Bethan yn un nid-er-elw, ac yn denu plant rhwng chwech a naw oed. Mae hi nawr yn gobeithio denu gofalwyr ifanc i'r clwb.

Dywedodd Lorna Fenwick o gynllun Gofalwyr Ifanc Wrecsam, Conwy a Sir Ddinbych: "Mae hi'n eitha' prin i un o'n gofalwyr ifanc i sefydlu rhywbeth fel yma.

"Yn ogystal â'i rôl fel gofalwr, sy'n rhywbeth enfawr i berson ifanc yn ei hun, mae gwneud hyn a hithau mor ifanc yn ei gwneud yn ysbrydoliaeth."