Cynghorydd yn gadael Llafur gydag ergyd

  • Cyhoeddwyd
Ralph Cook

Mae cyn ddirprwy arweinydd Llafur ar Gyngor Caerdydd wedi dweud wrth BBC Cymru nad yw ei blaid yn deall sut mae rhedeg y ddinas.

Mae Ralph Cook wedi ymddiswyddo o'r blaid wedi i'r grŵp Llafur ei wahardd rhag eistedd ar bwyllgorau'r awdurdod fel cosb wedi iddo wrthwynebu eu cynllun trafnidiaeth y llynedd.

Eisoes mae llefarydd ar ran Llafur wedi wfftio sylwadau Mr Cook.

Dyma'r ffrae ddiweddaraf mewn cyfres o fewn grŵp Llafur Caerdydd.

Ym mis Mai roedd angen ail bleidlais ar yr arweinydd Phil Bale cyn cael ei ail ethol wedi i'r bleidlais gyntaf orffen yn gyfartal.

Yn gynharach eleni llwyddodd i oroesi pleidlais o ddiffyg hyder yn ei arweinyddiaeth wrth iddo gael trafferth ennill pleidlais o blaid ei gyllideb.

Dywedodd y Cynghorydd Cook wrth BBC Cymru: "Nid yw'r grŵp yn ymddwyn mewn modd cydlynol o gwbl. Dydyn nhw ddim yn trafod polisi.

"Nid yw'r arweinyddiaeth yn deall sut mae cydlynu'r grŵp na rhedeg y ddinas... mae yna ddigon o bobl yn y grŵp sy'n cadw'n ddistaw ac yn gadael i hyn ddigwydd."

Ond daeth ymateb cadarn gan lefarydd Llafur yn y ddinas Sue White:

"Dyma sylwadau personol dyn sydd wedi cael ei wahardd o'r grŵp oherwydd gweithred o ddiffyg disgyblaeth - beth mwy sydd i ddweud?"

Dadansoddiad Uned Wleidyddol BBC Cymru

Lai na deufis ers i'r grŵp Llafur geisio disodli Phil Bale fel arweinydd y cyngor mae yma fwy o anniddigrwydd.

Gan fod gan y blaid Lafur fwyafrif cyffyrddus ar y cyngor, ac nid yw ymadawiad Ralph Cook yn arwyddocaol ar ben ei hun, ond mae wedi bod yn aelod o'r blaid ers 37 mlynedd ac fe allai'r sefyllfa droi'n fwy difrifol os fydd mwy o gynghorwyr yn ei ddilyn.

Does neb yn dweud hynny'n gyhoeddus ar hyn o bryd, ond fe allai pencadlys Llafur Cymru orfod camu i mewn i'r ddadl mewn ymgais i gymodi os fydd y sefyllfa yn y cyngor mwyaf yng Nghymru yn gwaethygu.