Ymosodiad: Apêl am dystion
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn parhau i ymchwilio i ymosodiad yn Solfach, Sir Benfro, ddydd Sul.
Roedd yr ymosodiad rhwng 11:00 a 12:45.
Cafodd dyn ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac mae'n parhau i gael ei holi am y digwyddiad y tu allan i dafarn y George.
Dylai unrhyw un ag unrhyw wybodaeth am y digwyddiad gysylltu â'r heddlu ar 101.