Lluniau: Tafwyl 2015

Daeth miloedd ynghyd i fwynhau ffair Tafwyl yng nghastell Caerdydd ar benwythnos 4-5 Gorffennaf 2015. Roedd yno weithgareddau i'r teulu cyfan o baentio wynebau i farddoniaeth o gerddoriaeth fyw i sesiynau trafod. Dyma i chi rai o'r uchafbwyntiau trwy lens y ffotograffydd swyddogol Kristina Banholzer.

Image caption Ble awn ni gyntaf?
Image caption "Dwi'n cael amser bin-digedig"
Image caption "Mae popeth yma ar blât i ni!"
Image caption Y lle delfrydol i gysgodi rhag yr haul tanbaid
Image caption Llwnc destun i Tafwyl
Image caption "Mae Tafwyl ben ac ysgwydd yn well nac unrhywbeth arall yng Nghaerdydd y penwythnos yma!"
Image copyright Kristina Banholzer
Image caption Mae hi'n edrych yn rhy dda i'w bwyta!
Image caption Digrifwyr y dyfodol?
Image caption Band Pres Llareggub yn chwythu i mewn i'r castell o gyfeiriad y ddinas
Image caption Ymarfer at Gemau Olympaidd 2024
Image caption Joio mas draw
Image caption Cyfle i ymlacio a mwynhau'r awyrgylch
Image caption "Ry'n ni wedi cael diwrnod gwerth chweil"
Image caption Faint o ferched Caerdydd oedd yn gwrando ar Geraint Jarman lawr yn y ddinas?

Gallwch weld rhagor o luniau Tafwyl ar wefan BBC Radio Cymru