"Allwn ni ddim gwneud dim mwy"
- Cyhoeddwyd

Mae ergydion i'r pen ar y cae rygbi wedi cael sylw mawr eleni ar ôl i chwaraewyr fel George North gael sawl cyfergyd - concussion.
Myfyriwr 19 oed ym Mhrifysgol King's Llundain ydi Angus Swanson o ardal Cas-gwent.
Ym mis Hydref 2013 mi gafodd anaf difrifol i'w ben tra'n chwarae rygbi i'r coleg. Wythnosau wedyn mi ddeffrôdd yn yr ysbyty gan ddechrau taith hir o adferiad. Dyma ei stori yn ei eiriau ei hun a'i fam Sharron:
Sharron: Bore Sul oedd hi. Mi oedd fy ngŵr newydd hedfan nôl o America. Ac mi oedd bywyd yn grêt i'n teulu ni.
O'n i yn yr ardd, ac mi ddwedodd fy mhlentyn ieuengaf, "Mam mae 'na blismon ar y ffôn. Mae Angus mewn hofrennydd".
Erbyn i fi fynd nôl i'r tŷ, mi oedd Tim (fy ngŵr) wedi cymryd y neges. Mi oedd e wedi cael damwain.
Mi oedd e yn ddifrifol wael ac yn cael ei gludo i'r Royal London. Nes i redeg fyny'r grisiau, taflu manion mewn i fag a ffwrdd â ni. A dyna'r tro olaf i ni ddod adre' go iawn am chwech wythnos.
Angus: Roedden ni'n chware tîm dan 23 Ealing mewn twrnament. Roedd y bêl gen i ac es i'n erbyn rhywun mwy a taro mhen ar y llawr. Nes i gerdded o'r cae at fy hyfforddwr, a dweud wrtho mod i eisiau ysgwyd llaw chwaraewyr y tîm arall cyn i fi adael, yna cwympo - a dechrau cael ffit.
Dyna pryd wnaethon nhw sylweddoli bod angen ffonio am ambiwlans. Ar ôl hynny jest duwch.
Sharron: Nes i weld fy mab yn gorwedd yn llonydd yn yr ysbyty gyda pheiriannau o'i gwmpas ymhob man. Dair gwaith yn ystod y tair wythnos pan oedd e mewn coma mi wnaethon nhw alw ni mewn i ystafell fach a dweud, "Allwn ni ddim gwneud dim mwy."
Nid yn unig roedd ganddo anaf i'w ben, mi oedd ei galon e wedi stopio a'i ysgyfaint wedi colapso.
Y trydydd tro mi ddwedais i, "Dwi ddim yn dod, dwi ddim yn dod, 'da chi wedi dweud wrtha fi, alla i ddim gwrando eto." Ond mae Angus yn berson sy'n brwydro. Ac mi ddaeth e trwyddi.
Angus: Nes i ddeffro a meddwl, "Beth uffern ddigwyddodd neithiwr?"
O'n i'n meddwl mod i jest wedi bod mas ac yn methu cofio dim. A wedyn nes i ddeffro yn iawn a sylweddoli nad o'n i yn gallu symud fy mreichiau, fy nghoesau, dim.
Do'n i ddim yn medru siarad hyd yn oed. O'n i wedi mharlysu.
Sharron: Yr unig beth o'n i a Tim yn gallu gwneud oedd edrych ar y rhifau ar y peiriannau. Mi ddaethon ni i wybod, os oedd rhai rhifau yn isel, mi oedd hynny yn beth da - fel gwasgedd yr ymennydd.
Ond os oedd rhai rhifau yn codi mi oedden ni yn gwybod bod hynny ddim yn beth da. A chi'n dal gafael ar bopeth allwch chi achos does na ddim lot allwch chi gydio ynddo.
Oherwydd ei fod e wedi cael gwaedlif mawr yn ei ben, doedd ganddon ni ddim syniad beth fydden ni'n gael yn ôl fel mab.
Ond oedd e'n fyw a phetai e wedi bod mewn cadair olwyn fe fydden ni wedi dygymod.
Angus: Pan chi'n deffro a chi methu symud chi'n sylweddoli nad yw pethe fel y dylen nhw fod. Oedd e'n ofnadwy i fod yn onest achos o'n i wedi byw bywyd mor actif cyn hynny.
Sharron: O fewn tair wythnos iddo fe gael y ddamwain a deffro mi oedd e wedi colli pedair stôn. Oedd hwnna yn sioc fawr. Ac mi ddywedon ni, "Ar y funud mae bywyd yn eithaf gwael ond fodfedd wrth fodfedd mi wnewn ni gamu ymlaen."
Mi gafodd e ei symud i'r ganolfan adferiad ymennydd yn Ysbyty Frenchay ym Mryste. Un o'r pethau lyfli oedd bod gyda fe 'stafell ei hun.
Mi oedd e wedi setlo ac mi ddes i adref ac mi ddywedon nhw allen ni ddod â'i duvet fe. Pethau bach personol. Mi oedd e yn gallu rhoi posteri ar ei wal, dod yn berson eto, ddim jest claf.
Angus: Na'th Bryste fod o gymorth mawr i mi gyda'm hadferiad. Y peth cyntaf maen nhw yn ei wneud pan 'dych chi yn dod mewn yw gofyn beth yw'r tri pheth chi eisiau gwneud.
Dywedais i mod i eisiau cerdded y ci, rhedeg a mynd nôl i'r brifysgol. Erbyn i fi adael o'n i wedi gwneud dau o'r pethau yna.
Jest bod yn stwbwrn dw i'n meddwl. Odd hi'n fater o ddweud, dwi ddim yn mynd i eistedd mewn cadair olwyn am weddill fy mywyd, dwi ddim yn mynd i wneud hyn.
A thynnu fy hun mas o'r gadair olwyn gyda chymorth arbenigwyr oedd yn gallu gweld mod i yn weithiwr caled. Mi wnaethon nhw fy ngwthio i hyd yn oed mwy nag o'n i yn meddwl allen i wthio fy hun.
Sharron: Roedden ni wedi sefydlu tudalen ar Facebook i Angus. Felly y tro cyntaf wnes i weld e'n cerdded oedd ar y dudalen yna, ar fideo oedd wedi cael ei roi arni. Dwi'n meddwl wnes i eistedd i lawr a chrio.
Oedd e hefyd yn reit drist achos yr Hydref hwnnw pan aeth e i'r brifysgol mi oedd gen i fab 18 oed oedd yn heini iawn. Ac wedyn nes i weld person pedair stôn yn ysgafnach yn cael help i gerdded lawr y coridor.
Felly, oedd mi oedd e yn hyfryd, ond mi oedd e hefyd yn rhyw fath o golled enfawr o'r hyn oedd e wedi colli. Mae e wedi bod yn fater o jyglo lot o'r amser gan gofio beth oedd gyda chi o'r blaen, edrych ar y sefyllfa nawr ond hefyd dathlu beth sydd gyda chi nawr.
Angus: Un o'r pethau anoddaf yw trio delio gyda'r bywyd oedd gyda fi cynt a'r bywyd sydd gyda fi nawr ac mi wnaeth cysoni'r ddau arwain at gyfnod o iselder reit wael ar un pwynt.
Ro'n i'n isel yn mynd nôl i'r brifysgol a theimlo mod i yn annigonol a mod i ddim yn perthyn yno.
Ond wrth i amser fynd yn ei flaen, wnes i aros a chael graddau uwch trwy'r flwyddyn, a dod i sylweddoli yn raddol mod i yn haeddu bod yno cymaint, os nad mwy, nag unrhyw berson arall. Dw i wedi gweithio trwy'r iselder yna ar ben fy hun a gyda help fy nheulu.
Sharron: 'Da chi wastad yn meddwl bod chi'n nabod eich plant ond mae Angus wedi dangos i mi elfen nad oeddwn i ddim yn sylweddoli oedd yn bod. Ro'n i'n gwybod erioed fod e'n dawel stwbwrn ond wnes i 'rioed sylweddoli mor unplyg a phenderfynol yw e.
Angus: Dwi'n cofio niwrolegydd yn dweud wrtha fi na faswn i byth yn chware rygbi eto. Nath hynny chwalu fy myd oherwydd ro'n i'n benderfynol o ail gydio'n y gêm. Ond, wnes i feddwl, ie mae hyn yn ddrwg ond nes i benderfynu codi'r darnau a bwrw 'mlaen. Felly nawr dwi wedi dechre hyfforddi yn lle hynny. Aros o fewn y gêm ond ddim chware.
Sharron: Mae e wedi magu pwysau yn ôl erbyn hyn, mae'n gwenu, mae ei lygaid yn disgleirio, yr holl bethau yma - dyma Angus.
Yn anffodus gydag anafiadau pen mae 'na bethau dyw pobl ddim yn gweld. Mae 'na bethau ac mi fydd yna frwydrau ac efallai y bydd 'na frwydrau trwy ei fywyd.
Angus: Roedd Angus rhif un, fel 'da ni'n dweud, cyn y ddamwain, oedd e'n reit hy, reit groch, yn berson allblyg iawn, ddim cweit yn canolbwyntio digon ar ei waith a ddim cweit yn ymddwyn mor fonheddig a fydden ni yn disgwyl o fy hun nawr.
Ond mae Angus rhif dau yn berson llawer neisiach, yn trin pobl yn llawer gwell, gyda mwy o barch tuag at bobl a'i gyfoedion, yn ymroi mwy i'w waith ac wedi rhoi i un ochr yr elfen wirion llawn testosteron yna.