Streic trenau i barhau

  • Cyhoeddwyd
trenau cyflymFfynhonnell y llun, fgw
Disgrifiad o’r llun,
Fe fydd trenau cyflym newydd cwmni First Great Western yn cymryd lle hen drenau o'r 1970'au

Dywed cynrychiolwyr undeb fod trafodaethau munud olafgyda First Great Western (FGW) wedi methu a bydd eu haelodau yn mynd ar streic.

Bydd aelodau Undeb y Rheilffordd, Morwrol a Thrafnidiaeth (RMT)yn dechrau'r streic 48 awr am 18:30 ddydd Mercher.

Fe ddaw hyn yn dilyn cynlluniau i gael gwared â rhai swyddogion a cherbydau bwffe ar drenau newydd yr Hitachi Inter City Express gan FGW, fydd yn cael eu cyflwyno yn 2017.

Pe bai'r streic yn mynd ei blaen, byddai'r trenau i Lundain yn rhedeg bob awr yn hytrach na bob 30 munud, a bydd gwasanaethau i Ddyfnaint a Chernyw bob dwy awr yn hytrach na phob awr.

Dywedodd llefarydd ar ran yr RMT: "Mae safiad y cwmni yn gwbl annerbyniol....mae yna dal amser i newid natur a chynllun y trenau newydd."

'Siomedig'

Mae disgwyl i'r gweithredu diwydiannol gael effaith fawr ar deithwyr sy'n mynychu ail ddiwrnod y gêm griced rhwng Lloegr ac Awstralia yng nghyfres y Lludw yng Nghaerdydd ddydd Iau.

Fe bleidleisiodd 80% o weithwyr RMT dros gefnogi streic.

Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr FGW Mark Hopwood mai 41% o aelodau RMT sy'n gweithio i'r cwmni bleidleisiodd o blaid y cam hwn.

Ategodd: "Rydym yn siomedig bod ein haddewid dros sicrwydd swyddi - sef yr angen am fwy, nid llai o staff - ac ein hymrwymiad i gynnal yr un cyflogau ac amodau i staff yr effeithir arnynt - heb eu clywed."