Toriadau S4C yn 'rhesymol' medd John Whittingdale
- Cyhoeddwyd

Dylai S4C wynebu'r un toriadau â'r BBC, yn ôl yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale.
Dywedodd wrth Aelodau Seneddol ei fod yn "rhesymol" i ddisgwyl i S4C arbed arian yn yr un modd ac y mae'r BBC yn gorfod ei wneud.
Roedd yn ymateb ar ôl i arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Jonathan Edwards, ofyn am sicrwydd na fyddai S4C yn wynebu toriadau tebyg i'r BBC.
Trafodaeth am ariannu S4C 'heb gychwyn'
Mae'r rhan fwyaf o gyllid S4C yn dod o ffi drwydded y BBC, yn ogystal â pheth gan lywodraeth y DU ac incwm masnachol.
Dywedodd Mr Whittingdale: "Dwi'n meddwl ei fod yn rhesymol y dylai S4C wneud yr un math o arbedion effeithlonrwydd y mae'r llywodraeth am i'r BBC ei wneud."
Trwyddedau am ddim
Hefyd, dywedodd Mr Whittingdale y byddai'r BBC yn gyfrifol am ariannu trwyddedau am ddim i bobl dros 75 oed.
Bydd y newid yn cael ei gyflwyno yn raddol o 2018/19, a bydd y BBC yn cymryd y gost yn llawn o 2020/21 ymlaen.
Dywedodd y BBC mai dyma'r cytundeb cywir "mewn amgylchiadau economaidd anodd".
Dywedodd Mr Whittingdale bod y llywodraeth yn falch bod y BBC yn cyfrannu at leihau gwariant cyhoeddus ac yn lleihau'r ddibyniaeth ar drethdalwyr.
Dywedodd Cadeirydd Awdurdod S4C, Huw Jones, ei fod yn "edrych ymlaen at barhau â'n trafodaethau â Llywodraeth y DU ynglŷn ag ariannu yn y dyfodol".
"Mae S4C eisoes yn y broses o wneud toriadau o 36% mewn termau real ers 2010, ac mae gorbenion wedi eu lleihau i tua 4%. Edrychwn ymlaen at ddeialog pellach i drafod sut all y cyd-destun hwn gael ei ystyried wrth gyfrifo dyraniadau cyllidebol yn y dyfodol."
Dadansoddiad Huw Thomas, Gohebydd Celfyddydau
Does dim dwywaith ei bod hi'n ymddangos yn gostus i'r BBC ysgwyddo'r baich o dalu am drwyddedau i bobl dros 75.
Ond dydy'r £650m yn flynyddol ddim yn mynd i greu twll anferth yng nghyllideb y Gorfforaeth, oherwydd y newidiadau eraill i'w hincwm.
Mae'r cynnydd sylweddol yn y nifer sy'n dewis gwylio ar-alw ar yr iPlayer wedi peri pryder i gyfrifwyr y BBC, gan nad oes angen trwydded i wylio'r rhaglenni ar-lein.
Felly roedd 'na ochenaid o ryddhad heddiw gan rai rheolwyr wrth dderbyn cadarnhad y bydd cynllun moderneiddio yn golygu y bydd rhaid talu am drwydded cyn gwylio'r iPlayer yn y dyfodol.
Wrth ychwanegu'r mesurau eraill - chwyddiant yn cynyddu cost y drwydded unwaith eto, a rhoi'r gorau i ariannu band-eang - mae rheolwyr y BBC yng Nghymru a thu hwnt yn ystyried fod yr incwm wedi'i rhewi yn nhermau real. Llwyddiant yn llygaid y rhai oedd yn gyfrifol am drafod y dyfodol ariannol.
Ond mae'r dyfodol ymhell o fod yn sicr. Bydd y broses o adnewyddu siarter y BBC yn dechrau dros yr haf, ac yn dod ag oblygiadau newydd.
Ac i S4C mae'r trafodaethau'n parhau wrth i'r sianel drio denu atebion ynglŷn â'r arian maent yn derbyn gan y BBC a llywodraeth y DU.
Wedi'r cwestiwn yn y senedd, dywedodd Jonathan Edwards y byddai'r datganiad "yn codi pryderon mawr am gyllid y dyfodol i'r BBC yng Nghymru ac S4C".
"Mae'r llywodraeth wedi gollwng bom, ac mae darlledwyr yng Nghymru yn haeddu eglurder ar frys ar yr hyn mae'n olygu i'w gobeithion ariannol yn y dyfodol."
Dywedodd Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg: "Mae'r sylwadau prynhawn yma yn achosi llawer o bryder. Dyw cyflwyno mwy o doriadau i S4C ddim yn opsiwn."
Mewn llythyr at Mr Whittingdale ddydd Llun, dywedodd Mr Bevan: "Pryderwn yn fawr fod y gyllideb ddydd Mercher eto yn mynd i gael sgil effaith ar S4C nas trafodwyd ymlaen llaw gyda phobl Cymru.
"Erfyniwn arnoch i sicrhau nad oes newidiadau i gyllideb na strwythurau S4C heb ymgynghoriad llawn."
Straeon perthnasol
- 4 Mehefin 2015
- 28 Mai 2015