Cyhuddo dyn wedi marwolaeth Llandrindod
- Cyhoeddwyd

Bu farw Craig Thomas Savage yn dilyn digwyddiad yn Llandrindod ddydd Sul
Mae'r heddlu wedi cyhuddo dyn o lofruddio dyn 31 oed ym Mhowys.
Bu farw Craig Thomas Savage yn dilyn digwyddiad ar Stryd Temple yn Llandrindod yn oriau man bore Sul.
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys bod dyn 25 oed gafodd ei arestio wedi ei gyhuddo ac y byddai'n ymddangos gerbron Llys Ynadon Y Trallwng ddydd Mawrth.
Mae'r heddlu yn parhau i ymchwilio i'r farwolaeth.