Colin Ingram yn achub Morgannwg yn erbyn Sir Derby
- Cyhoeddwyd

Dyma yw sgôr uchaf Colin Ingram i Forgannwg yn y Bencampwriaeth
Roedd Morgannwg yn ddyledus i Colin Ingram am achub y sefyllfa ar ôl colli dwy wiced gynnar ar ddiwrnod agoriadol y gêm Bencampwriaeth yn erbyn Sir Derby yn Chesterfield.
Daeth Ingram i fatio gyda Morgannwg ar 10 am 2 ar ôl colli Jacques Rudolph am un a Ben Wright heb sgorio.
Wrth i'r tywydd amharu ar y chwarae, cafodd Ingram (73 heb fod allan) gefnogaeth gan Will Bragg (37) ac yna Craig Meschede (34 heb fod allan) wrth i'r ymwelwyr gyrraedd diwedd y dydd ar 167 am 3.
Roedd cryn ofid i Forgannwg wrth i'r wicedwr Mark Wallace orfod ymddeol oherwydd anaf ar ôl wynebu 13 pêl.
Fe aeth i'r ysbyty er mwyn cael profion ar ei fawd.