Tân mewn swyddfa : Ymchwiliad ar droed
- Cyhoeddwyd

Fe gafodd 45 o ddiffoddwyr tân eu galw i Stryd y Felin ym Mhontypridd nos Lun, wedi i dân gynnau mewn swyddfa bost a siop wyliau yno.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw tua 18.00.
Doedd neb wedi'u hanafu, ond mae 'na ddifrod sylweddol i lawr gwaelod yr adeilad.
Mae swyddogion yn dal i fod yno fore Mawrth ac mae 'na ymchwiliad ar droed i ganfod achos y tân.