Newidiadau trwydded deledu: 'Sylfaen gadarn i'r BBC'

  • Cyhoeddwyd
Pencadlys
Disgrifiad o’r llun,
Pencadlys BBC Cymru yng Nghaerdydd

Yn dilyn y cyhoeddiad ddoe mai'r BBC fydd yn talu am drwyddedau teledu i'r rhai dros 75 oed o 2018 ymlaen, mae sôn y gallai gostio £650 miliwn i'r BBC - un rhan o bump o'i chyllideb.

Ar Raglen Dylan Jones bore 'ma, mi fu Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, yn ymateb i'r datblygiad, gan ddweud ei fod yn rhoi "sylfaen gadarn i'r BBC lunio'i gwasanaeth am y cyfnod nesa' 'ma."

Ychwanegodd: "Mae'n mynd i fod yn heriol. Mae'r tirlun darlledu'n symud yn gyflym - mae 'na gyfnod cyffrous a chyfnod o newid o'n blaenau."

Wrth fanylu am y berthynas rhwng y BBC ac S4C, meddai: "Mae'r berthynas yn un agos eisoes ac mae 'na ffyrdd o gryfhau ymhellach. Er, mae'n bwysig cadw annibyniaeth hefyd.

"Ond dwi eisiau gweld y bartneriaeth yn mynd o nerth i nerth."

Yn gynharach, roedd yr AS Ceidwadol David Davies wedi nodi fod y BBC yn dweud nad oedd digon o arian yn cael ei glustnodi ar gyfer creu rhaglenni Saesneg am Gymru "a bod rhai yn meddwl fod gormod o arian yn cael ei wario ar S4C".

Disgrifiad,

Dylan Jones fu'n holi Rhodri Talfan Davies

Meddai Rhodri Talfan Davies: "Mae'n rhaid i ni edrych ar y ddarpariaeth teledu Saesneg - mae'r cyllid wedi diflannu.

"Tu hwnt i chwaraeon a newyddion, dim ond rhyw awr yr wythnos sydd 'na o ddarpariaeth yn Saesneg. Dyw e ddim yn fater o ddewis."

Yr un toriadau i S4C?

Yn ystod yr un drafodaeth yn San Steffan ddydd Llun, fe ddywedodd yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale, y dylai S4C wynebu'r un toriadau â'r BBC.

Dywedodd wrth Aelodau Seneddol ei fod yn "rhesymol" i ddisgwyl i S4C arbed arian yn yr un modd ac y mae'r BBC yn gorfod ei wneud.

Roedd yn ymateb ar ôl i arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, Jonathan Edwards, ofyn am sicrwydd na fyddai S4C yn wynebu toriadau tebyg i'r BBC.

Mae'r rhan fwyaf o gyllid S4C yn dod o ffi drwydded y BBC, yn ogystal â pheth gan lywodraeth y DU ac incwm masnachol.

Dywedodd Mr Whittingdale: "Dwi'n meddwl ei fod yn rhesymol y dylai S4C wneud yr un math o arbedion effeithlonrwydd y mae'r llywodraeth am i'r BBC ei wneud."