Archif ddigidol i ffilmiau'r gorffennol
- Cyhoeddwyd
Ddydd Mawrth, mae'r BFI yn cyhoeddi cyfres o ffilmiau archif yn ddigidol, yn rhan o brosiect Prydain ar Ffilm.
Mae gobaith y bydd hyd at 10,000 o ffilmiau a rhaglenni teledu o 1895 hyd heddiw ar gael i bawb eu gwylio erbyn 2017.
Yn rhan o'r deunydd, mae nifer o ffilmiau sy'n ymwneud â Chymru.
Dywedodd Robin Baker, Prif Guradur y BFI: "Ers 120 o flynyddoedd mae camerâu wedi bod yn tynnu lluniau o bob agwedd ar fywyd y DU mewn ffilm, ond yn rhy aml nid yw'r rhain wedi bod ar gael.
"Nawr mae Prydain Ar Ffilm yn trawsnewid y mynediad at ffilmiau archifau'r DU ac yn sicrhau eu bod ar gael, dim ots ble rydych chi'n byw."
Ymysg y deunydd o Gymru, mae:
- Men Against Death (1933) - y ffilm sain gyntaf erioed i gael ei gwneud a'i lleoli yng Nghymru, gyda Chwarel Dorothea a'i chwarelwyr sydd wedi'u dal "rhwng nef a daear".
- Tryweryn - A Story of a Valley (1969) - ffilm ddogfen gan blant ysgol am y digwyddiadau a arweiniodd at foddi Capel Celyn, gan gynnwys y diwrnod olaf un yn ysgol y pentref.
- Letter from Wales (1953) - drama hyfryd yn yr iaith Gymraeg a gynhyrchwyd ar gyfer y Children's Film Foundation, wedi'i lleoli yn Llandwrog a'r cyffiniau ac yn cynnwys cyfuniad hapus o blant, anifeiliaid ac oedolion hynaws.
- Tiger Bay and the Rainbow Club (1960) - ffilm yn dangos bywyd yng nghymuned amrywiol Tiger Bay, yn dathlu priodasau a phlant yn mwynhau tripiau a gweithgareddau yn y Rainbow Club lleol.
- Time of Change (1967) - stori am ddau weithiwr yn yr Anglo Celtic Watch Company yn Ystradgynlais, sy'n cael ei adnabod yn lleol fel 'Y Tic Toc'.
- Dulais Valley - casgliad syfrdanol o ddathliadau cymunedol yn ardal Onllwyn rhwng y 1950au a'r 1970au. Ffilmiwyd mewn lliw gan bobydd o fri, John Dillwyn Williams. Mae Hywel Francis, AS Aberafon rhwng 2001 a 2015, i'w weld yn y ffilm fel bachgen ifanc.
- Babs' Recovery (1969) - ffilm gan y Weinyddiaeth Amddiffyn yn dangos y gwaith o dyllu am Babs, y car rasio, o dywod Pentywyn wedi'r gwrthdrawiad a laddodd John Godfrey Parry Thomas o Wrecsam yn 1927 wrth iddo geisio trechu'r record cyflymder ar y tir.
Mae Archif Sgrin a Sain Cymru wedi ymuno â'r BFI i weithio ar y prosiect Prydain Ar Ffilm. Dywedodd y Swyddog Datblygu Ffilmiau, Iola Baines:
"Mae darnau anhygoel o ffilm am Gymru yma, prin wedi'u gweld tan rŵan, ac maen nhw hefyd yn dweud cymaint wrthym ni am ein hanes a'n cymunedau. Mae Prydain Ar Ffilm wedi galluogi i ni ddatgloi treftadaeth byd y ffilmiau a rhannu'r lluniau pwerus hyn gyda'r cyhoedd yn gyffredinol.
"Nawr bydd posib i ni astudio'r tirluniau a'r strydoedd ble cawsom ni ein magu, cymunedau'r genhedlaeth a fu, a diwylliannau a thraddodiadau sydd wedi hen ddiflannu bellach."