"Rhagfarn a chasineb"

  • Cyhoeddwyd
priodas hoywFfynhonnell y llun, AFP

Mae'n bwnc sydd wedi hollti barn mewn sawl eglwys ar hyd a lled Cymru. Ar hyn o bryd mae aelodau Eglwys Bresbyteraidd Cymru yn trafod a ydyn nhw am gefnogi priodas un rhyw a'i peidio.

Mae'r Eglwys wedi ei rhannu yn dair sasiwn - y gogledd, y de a'r dwyrain. Mae angen i'r tair sasiwn basio y cynnig yn annibynol i'w gilydd er mwyn i'r cynnig gael ei dderbyn. Bydd y mater yn cael ei drafod pan fydd Cymdeithasfa'r De yn cyfarfod ym Mhort Talbot ar 14 Hydref.

Mae'r Parch Morris Puw Morris yn weinidog yn Rhuthun ac yn gefnogol i'r egwyddor o briodasau un rhyw.

Osgoi trafodaeth

Mae'r Eglwys wedi bod yn llusgo'i thraed ers blynyddoedd ar y mater, y gwir plaen ydi ein bod ni ddim digon dewr i gydnabod yn gyhoeddus ein bod ni'n Eglwys ragfarnllyd, ac yn cuddio casineb dwfn tuag at bobl hoyw.

Ond oherwydd ein bod ni'n gwrthod cydnabod hynny'n gyhoeddus, ry' ni'n trafferthu trafod rhyw fanion cyfansoddiadol er mwyn osgoi dweud lle 'da ni'n sefyll.

Does dim gobaith o gwbl, achos dwi'n 'nabod yr Eglwys dwi'n perthyn iddi, dwi'n nabod yr agweddau sydd ar waith, ac o'n i'n argyhoeddedig o'r cychwyn nad oedd gobaith i'r peth weithio - ond mae rhaid i chi frwydro dros y peth beth bynnag, a dyna'r pwynt.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

"Teimlo'n gryfach bob dydd"

Rydw i yn teimlo'n gryf am hawliau bobl hoyw i briodi ac yn teimlo'n gryfach am y peth bob dydd.

O dop fy mhen mi fyswn i'n dweud bod nifer yn erbyn, a nifer fwy wedyn yn gwrthod mynegi barn y naill ffordd neu'r llall. Ychydig iawn sy'n fodlon sefyll fyny a dweud "na, mae hyn yn fater o gyfiawnder dynol".

Mae yna garfan go gre' o weinidogion Efengylaidd yn arwain y corff ar hyn o bryd a dwi'n credu mai o fanno mae'r gwrthwynebiad mwyaf yn dod - rhyw argyhoeddiad terfynol.

Mae'r aelodaeth yn dueddol o fod yn hŷn ac yn eitha' ceidwadol, ond dydi lot ohonyn nhw heb gael y cyfle i drafod y peth.

Dwi'n siwr yn y bôn bod aelodaeth Eglwys Bresbyteraidd Cymru yr un mor geidwadol â gweddill y boblogaeth - bysa 'na ddim croeso mawr byswn i'n dychmygu.

Mae hi yn rhwystredig, achos dwi'n styc mewn enwad lle 'dwi ddim yn cael dilyn cydwybod fy hun, ond yn gorfod ildio i gydwybod, a rhagfarnau eraill, sydd eisiau gwyro cyfiawnder a gwyro bywyd yr Eglwys.

Yr unig gysur mewn ffordd yw bod yr Eglwys Bresbyteraidd yn diflannu mor gyflym, wel, rwy' bron â dweud fy mod i'n falch ei bod yn diflannu os ydi hi'n coleddu y math yma o ragfarn a chasineb."

Ydych chi'n cytuno gyda'r Parchedig Morris Puw Morris? Cysylltwch gyda ni ar cymrufyw@bbc.co.uk neu ar ein cyfrif Twitter @BBCCymruFyw