Adnabod corff Cymro aeth ar goll ar Ynys Wyth

  • Cyhoeddwyd
Michael DaviesFfynhonnell y llun, Heddlu Hampshire
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Michael Davies ar ei wyliau ar Ynys Wyth pan aeth ar goll

Daeth cadarnhad ddydd Mawrth mai corff pensiynwr o Flaenau Gwent aeth ar goll ar Ynys Wyth oedd y corff gafodd ei ddarganfod mewn cors ar yr ynys.

Roedd Michael Davies, 71 oed o'r Blaenau, wedi bod yn aros mewn gwesty gyda'i wraig pan ddiflannodd ar 26 Mai.

Roedd y cwpl wedi teithio i dref Sandown ar yr ynys ar fws.

Mae Heddlu Hampshire wedi cadarnhau bod archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ac mae teulu Mr Davies wedi eu hysbysu am y datblygiad.

Nid yw ei farwolaeth yn cael ei drin fel un amheus.

Cafodd ei gorff ei ddarganfod yn ardal Sandown o'r ynys, yn dilyn archwiliadau gan swyddogion arbenigol, cŵn, a gwirfoddolwyr.