Y Farwnes Morgan yn ymgeisio am enwebiad rhanbarthol

  • Cyhoeddwyd
Y Farwnes Morgan

Mae'r Farwnes Eluned Morgan wedi dweud y bydd yn ceisio am enwebiad y Blaid Lafur ar gyfer rhestr Canolbarth a Gorllewin Cymru yn etholiad y Cynulliad.

Cyhoeddodd na fyddai'n ymgeisio am enwebiad sedd Castell-nedd, hen sedd Gwenda Thomas.

Fe wnaeth y Farwnes Morgan gynrychioli Canolbarth a Gorllewin Cymru yn Ewrop.

Dywedodd: "Fe wnaeth (yr etholwyr) roi eu ffydd yno fi pan oeddwn i'n dechrau fy ngyrfa yn 27 oed ac yn ddibrofiad."

Mae'r Farwnes Morgan, oedd yn Aelod Seneddol Ewropeaidd rhwng 1994 a 2009, yn llefarydd Llafur ar Gymru a materion tramor yn Nhŷ'r Arglwyddi.

Mae'r Cynulliad yn cynnwys 60 o aelodau - 40 yn cynrychioli etholaethau ac 20 sy'n cael eu hethol o restrau rhanbarthol.

Nid oedd hawl i ymgeiswyr sefyll mewn etholaeth ac ar restr ranbarthol yn 2007 na 2011, ond mae hawl i ymgeiswyr wneud hynny yn 2016.