Argoeli'n dda i Brifwyl Maldwyn, medd Prif Weithredwr
- Cyhoeddwyd

Mae pethau'n argoeli'n dda i goffrau Prifwyl 2015, medd y Prif Weithredwr, gyda'r pwyllgorau lleol wedi hen basio'r targed ariannol, a gwerthiant tocynnau cynnar hefyd ar i fyny.
Y targed lleol gwreiddiol oedd £267,000 ond daeth i'r amlwg yn adroddiad ariannol Cyngor yr Eisteddfod ddiwedd Mehefin fod dros £280,000 eisoes wedi'i godi.
Ac mae'r cynllun i annog pobl i brynu tocynnau o flaen llaw, ar bris gostyngol, hefyd wedi gwneud yn well nag erioed.
Cafodd gwerth £30,000 o docynnau eu gwerthu ar ddiwrnod ola' cynllun y Fargen Gynnar eleni, ar 30 Mehefin.
'Mwy nag erioed'
Dywedodd Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, wrth Cymru Fyw:
"Mae'r bargeinion cynnar wedi gweithio eleni. Mae 'na lu mawr o bobl wedi manteisio arnyn nhw - mwy nag erioed.
"Yr hyn sy'n anodd i ni ydy cael y negeseuon yma allan, felly mi ddechreuon ni ar hyn llynedd, ac mi fuon ni'n gwrando ar be' oedd pobl yn ei ddweud am y cynllun.
"Ddaru ni addasu 'chydig bach a ddaru ni ddefnyddio mwy ar wefannau cymdeithasol i hyrwyddo eleni. Roedd y Fargen Gynnar yn dod i ben ddydd Mawrth diwetha' - roedd hi fel ffair yma'r diwrnod hwnnw.
"Mi werthon ni'n agos i werth £30,000 o docynnau dydd Mawrth yn unig.
Rhy ddrud?
Er y cynigion bargen, mae'r prif weithredwr yn cydnabod bod pris mynediad yn gallu bod yn ddrud, yn enwedig i deuluoedd.
Ychwanegodd: "Dwi'r cynta' i gydnabod ella bod wythnos yn 'Steddfod yn ddrud i deulu os ydyn nhw'n mynychu pob diwrnod - ond mi fyddai wythnos yn unrhyw ddigwyddiad arall yr un mor ddrud, os nad yn ddrytach.
"Mae'r sylw ar y gwefannau cymdeithasol wedi helpu'n sicr, ond hefyd ma' pobl wedi dod i arfer. Os wyt ti'n cyflwyno cynllun newydd, mae'n cymryd amser i bobl ddod i wybod amdano ac i'w ddeall o. Ond mae'n eitha' clir eleni bod pobl wedi'i ddallt o a bod pobl wedi manteisio.
"Wrth gwrs bod o'n beth da i'r Eisteddfod. 'Da ni wedi gweld sut mae cwmnïau masnachol yn gweithredu 'efo'r syniadau yma. Nid ni sy' wedi creu hwn ond 'da ni wedi edrych arno ac wedi'i addasu i siwtio'n anghenion ni ac anghenion ein cwsmeriaid."
"Mae'n maes carafanau ni'n llawn - dim lle i fwy. Mae cyngerdd 'Gwydion' wedi gwerthu allan ac mae 'na un neu ddau o'r rhai eraill yn gwerthu'n dda iawn hefyd - mae'r noson lawen ar y nos Lun wedi gwerthu tua 80% yn barod. Felly mae pethau'n argoeli'n dda."
Bydd Eisteddfod Genedlaethol Maldwyn a'r Gororau yn cael ei chynnal ar dir Mathrafal o 1-8 Awst, 2015.