Colofn Jo Blog
- Cyhoeddwyd

Mae o yn ei ôl! Ar ôl bwrw ei swildod yr wythnos diwethaf gyda'i golofn gyntaf i Cymru Fyw, mae Jo Blog wedi bod yn brysur unwaith eto yn teipio ar ei gyfrifiadur. Yr oedi cyn agor Canolfan Pontio ym Mangor sydd wedi codi ei wrychyn y tro hwn:
"Hen natur storm"
Newydd agor oedd Theatr Gwynedd pan ddes i o Gaerfyrddin i Fangor i'r Coleg Normal am y tro cyntaf yn 1976. O'n i'n eitha' impresd os dwi'n cofio'n iawn. Y concrit, a'r holl steps 'na i fyny at y drysau ffrynt. Roedd o mor fodern, a'r bobl mor trendi!
Anodd credu ei fod o wedi bod ar gau ers 2008 ac wedi cael ei gnocio i lawr i godi'r peth Pontio 'ma.
A dwi ddim yn siŵr os oes unrhyw un yn gwybod yn iawn pryd bydd popeth yn agor eto, na faint yn union fydd o wedi gostio. Hyd y gwela'i y cynllun ydy, na does dim cynllun.
Roedd hi'n drymaidd ym Mangor 'ma nos Wener diwetha. Hen natur storm ynddi hi. Ond ar y television dorrodd y storm, ac yn sicr doedd y signal ddim yn pontio rhwng Caerdydd a Bangor.
Rhodri Llywelyn fu'n cwestiynu Yr Athro Jerry Hunter, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, ar raglen Newyddion 9
Rhodri Llywelyn yng Nghaerdydd a Dr Jerry Hunter ym Mangor.
O be' o'n i'n ddeall roedd Dr Hunter yn ecseited fod y lle'n agor - rhywbryd tua diwedd y flwyddyn yma, dechrau'r nesa'. Rhywle rhwng blwyddyn a blwyddyn a hanner yn hwyr.
Mae'r pethau hyn wastad yn hwyr, wastad yn mynd dros y gyllideb, dros y byd i gyd. Dyw Bangor ddim gwahanol. Ac mae Dr Hunter yn dod o America, felly fe ddyla' fo wybod am weddill y byd.
"Ymarfer cerdded"
Ac os deallais i'n iawn fydd 'na gyfle i ni i gyd ymarfer cerdded rownd, gaea' 'ma. Cyfle i'r werin gael ymgynefino ac i minnau gael gweld i lle fedra'i gyrraedd, neu beidio cyrraedd, ar fy mobility scooter!
Fydd hi hefyd yn gyfle i'r staff ddysgu mwy am y dechnoleg. (Faint o amser maen nhw isio?)
Mae'n debyg y bydd o'n gyfle i'n mêts am-dram i oedd wedi cael eu tynnu i mewn Chwefror diwethaf, i helpu'r Theatr Genedlaethol efo'u 'Chwalfa' nhw (gwaith T. Rowland Hughes nid Jerry Hunter), gael dysgu eu leins. Roeddan nhw'n bell ohoni tro cynta' rownd.
"Mae'r agoriad yn rhywbeth i ni gyd i edrych ymlaen ato fo, wyddoch chi," medda' Dr Hunter.
Wel dyna ni un peth 'dan ni wedi cael hen ddigon o ymarfer ar ei gyfer o - 'edrych ymlaen at yr agoriad'!
Wedyn aeth y cysylltiad rhwng Bangor a Chaerdydd yn flêr iawn.
2+2 = ?
Ddechreuodd Mr Llywelyn ofyn i Dr Hunter faint oedd y prosiect yn debyg o'i gostio...
"Mae'n Bont Bwysig…"
"Ond, Dr Hunter", meddai Mr Llywelyn, "faint ydy 50 tynnu 37?"
"Ond mae'n Bont Neis…"
"Ond, Dr Hunter," meddai Mr Llywelyn, "faint ydy 50 tynnu 37?"
"Ond mae'n Bont Fawr…"
Mae'r sym yn un go hawdd i chi a fi, ond yn un anoddach pan 'dach chi'n gosod chwech '0' tu ôl i'r rhifau ac arwydd minus o'u blaenau nhw ac mai un o Uchel Swyddogion Prifysgol Bangor sy'n trio ateb.
"Ond, gadewch i mi ofyn eto Mr Hunter (sylwch ar y 'Mr', roedd pethau wedi dirywio erbyn hyn), faint ydy 50 tynnu 37?"
"Ond mae hi'n Bont Fawr. Pont Lydan. Mae'n fwy na Phont, wyddoch chi!"
"Ga'i awgrymu rhyw £14,000,000 o orwariant, Mr Hunter. (Syms Mr Llywelyn ddim yn wych chwaith - fuodd o ddim yn y Coleg Normal). Pwy fydd yn talu?"
"Mae pawb yn gwybod hynny. Hen hanas... Ond mae hi'n Uffar o Bont Braf..."
'Nath o ddim deud pwy oedd yn talu am y diffyg, na faint fyddan nhw'n dalu. Prifysgol Bangor? Ewrop? Cyngor y Celfyddydau? Y trethdalwyr? Ond fydd o werth pob dimai.
Ond leciwn i sa fo yn deud. Achos mae o'n uffar o lot i mi dalu o mhensiwn am Theatr Gwynedd heb steps.
Bydd Jo Blog yn ei ôl ar wefan Cymru Fyw pan fydd rhywun neu rywbeth wedi codi ei wrychyn.
Fe hoffai aelodau tîm Cymru Fyw dynnu eich sylw at y ffaith nad ydym ni erioed wedi gweld Jo Blog yn ein swyddfeydd, felly rydym ni yn cymryd mai cymeriad dychmygol ydy o!