Llawdriniaeth arloesol ar y frest yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
LlawdriniaethFfynhonnell y llun, Ysbyty Athrofaol Cymru
Disgrifiad o’r llun,
Mae ffrâm fetel yn cael ei gosod drwy ddau dwll bach yn y frest ac yn ei ail-lunio

Un o ysbytai Cymru yw'r cyntaf yn y Deyrnas Unedig i gynnig triniaeth arloesol ar gyfer cleifion gyda nam ar y frest.

Daeth arbenigwyr ar lawdriniaethau'r frest o ar draws y byd i wylio'r driniaeth gyntaf yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd yn gynharach yr wythnos hon, gyda rhai yn gwylio mewn galeri uwchlaw'r theatr ac eraill drwy gyswllt fideo ar y we.

Mae'r llawdriniaeth yn helpu cleifion gyda 'pectus carinatum', neu 'pigeon chest', lle mae asgwrn y fron a'r asennau yn ymddangos fel petai nhw'n gwthio o'r frest.

Mae ffrâm fetel, sydd wedi'i ddyfeisio'n arbennig ar gyfer y driniaeth, yn cael ei gosod drwy ddau dwll bach yn y frest ac yn ei ail-lunio.

Yr Athro Mustafa Yuksel - o Istanbul yn Nhwrci - ddyluniodd y ffrâm ac mae eisoes wedi cynnal dros 150 o lawdriniaethau tebyg yn ei wlad ei hun.

Arbenigedd

Cafodd wahoddiad gan Ysbyty Athrofaol Cymru ac Athrofa Therapïau Lleiaf Ymyrrol Prifysgol Caerdydd (WIMAT) i ddod a'i arbenigedd i Gymru ac mae bellach yn aelod o staff y brifysgol.

"Mae'r ffrâm yr wyf i wedi'i ddylunio yn haws, yn fwy saff ac yn well i'w ddefnyddio," meddai'r Athro Yuksel.

"Mae'r llawdriniaethau eraill yn fwy cymhleth - ry'ch chi'n gorfod torri'r asennau, eu cymryd o'r corff a'u gosod eto yn gywir. Mae'n driniaeth enfawr sy'n gallu cymryd chwech i wyth awr.

"Mae'r driniaeth yma yn cymryd hanner awr yn unig ac mae'r claf yn gallu gadael yr ysbyty ddeuddydd yn ddiweddarach."

Disgrifiad o’r llun,
Cyn ac ar ôl - brest claf cyn ac ar ôl y llawdriniaeth

Mae cyflwr 'pectus carinatum' yn effeithio ar oddeutu un ym mhob 1,500 o blant ac yn fwy cyffredin mewn bechgyn na merched.

Gall y nam ddod yn fwy amlwg wrth i blant dyfu ac achosi problemau seicolegol dybryd - gan gynnwys iselder a phoeni'n ormodol am sut mae'r corff yn edrych.

Mewn rhai achosion gall effeithio ar berfformiad yr ysgyfaint.

Mae triniaeth debyg i'r un sy'n cael ei gynnig yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar gael yn barod ar gyfer math arall o nam - 'pectus excavatum' - sy'n achosi'r frest i edrych fel petai'n suddo mewn mannau.

Profiad dyn ifanc

Fe siaradodd un dyn ifanc oedd wedi derbyn y driniaeth wrth yr arbenigwyr oedd wedi ymgynnull yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Roedd yn awyddus i beidio â chael ei enwi gan ddadlau bod y cyflwr wedi ei greithio yn emosiynol.

"Na'th e wir effeithio fi'n feddyliol, yn enwedig pan o'n i'n dechrau ymwneud â merched," meddai.

"Ro'n i wastad yn swil iawn, ond yna fe wnes i gwrdd â merch ro'n i wir yn ei hoffi. Ond pan welodd hi fy mrest i, doedd hi ddim eisiau parhau gyda'r berthynas. Ac na'th hynny fy nharo i yn galed iawn.

"Ers cael y llawdriniaeth dwi'n llawer mwy hyderus."