Toriad o 'hyd at 10%' i gyllideb S4C?
- Cyhoeddwyd

Gallai galwad yr Ysgrifennydd Diwylliant ar i S4C wneud yr un arbedion â'r BBC olygu toriad o hyd at 10% i gyllideb y sianel, yn ôl cyn brif-weithredwr S4C.
Fe ddywedodd Arwel Ellis Owen ei fod yn poeni am annibyniaeth y BBC wedi cadarnhad y bydd y gorfforaeth yn gyfrifol am ariannu'r drwydded teledu i rai dros 75 oed.
Mae John Whittingdale wedi dweud ei bod hi'n "rhesymol i S4C wneud yr un arbedion â'r hyn mae'r llywodraeth yn disgwyl i'r BBC eu gwneud".
Ond fe ddywedodd Arwel Ellis Owen wrth raglen BBC Cymru, Y Sgwrs, ei fod o'n credu y byddai hynny'n golygu toriadau o £1.5m y flwyddyn am bum mlynedd i S4C - tua 10% o gyllideb y sianel - £7.5m i gyd.
"Ydy hynny'n rhesymol i sefyllfa darlledu yn Gymraeg? Dw i ddim yn siwr," meddai.
Gan ymateb i'r cynllun i ariannu'r drwydded teledu i rai dros 75 oed, fe ddywedodd ei bod hi'n "anhygoel bod llywodraeth yn medru gorfodi'r BBC - a swyddogion y BBC sydd wedi cytuno i hyn - i weithredu polisi cymdeithasol.
"Mewn gwirionedd, dyna beth yw e, yn hytrach nag unrhyw beth i'w wneud â darlledu, fel y cyfryw".
Straeon perthnasol
- 7 Gorffennaf 2015
- 6 Gorffennaf 2015