Beiciwr modur mewn gwrthdrawiad farwol yng Nghaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Rover WayFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad mewn ardal ddiwydiannol o'r brifddinas

Mae dyn 25 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar feic modur yng Nghaerdydd nos Fercher.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ar Rover Way rhwng ardal Tremorfa a'r Bae ychydig cyn 22:00.

Credir bod y beic modur Yahama coch a gwyn wedi taro polyn lamp.

Mae'r heddlu yn apelio am dystion, yn enwedig unrhyw wybodaeth am y ffordd roedd grŵp o feicwyr modur yn gyrru cyn y gwrthdrawiad.