Gwrthod caniatáu fferm wynt Mynydd y Gwair ger Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae ymgyrchwyr wedi ennill brwydr i rwystro fferm wynt £52m rhag cael ei hadeiladu yn Abertawe.
Mae'r Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans, wedi rhwystro'r datblygiad ym Mynydd y Gwair ger Felindre ar ôl ystyried adroddiad arolygwr cynllunio.
Roedd Cyngor Abertawe wedi rhoi caniatâd i gwmni RWE Innogy UK i adeiladu 16 o dyrbinau ar y safle.
Roedd y cynllun yn dibynnu ar y cwmni yn ffeirio tir comin fel rhan o'r broses, ond mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod yr elfen yma o'r datblygiad. Dywedodd y cwmni fod penderfyniad y gweinidog yn "siomedig a rhwystredig".
Daeth yr Arolygiaeth Cynllunio, yn dilyn nifer o wrandawiadau yn Abertawe, i'r casgliad y byddai'r datblygiad yn golygu y byddai hawliau tramwyo hynafol a thir pori i ddefaid yn diflannu.
Mae nifer yn lleol, yn cynnwys ffermwyr, wedi bod yn brwydro yn erbyn y datblygiad ers blynyddoedd, gan fynd a'u hachos i'r llys apêl. Cafodd cynllun gwreiddiol RWE i adeiladu 19 o dyrbinau ei wrthod.
Ymgyrch
Mae ymgyrchwyr o'r Gymdeithas Tir Agored wedi croesawu penderfyniad y gweinidog, gydag ysgrifennydd cyffredinol y gymdeithas, Kate Ashbrook, yn honni y byddai'r cynllun wedi golygu y byddai'r tir wedi cael "ei ddiraddio a'i ddinistrio gan ddatblygiad diwydiannol".
Ychwanegodd: "Mae Mynydd y Gwair yn le arbennig ar stepen drws Abertawe, ble mae cerddwyr a marchogwyr gyda hawl i dramwyo ac i fwynhau'r rhyddid, yr awyr iach a'r golygfeydd godidog."
Ymateb RWE
Wrth ymateb i benderfyniad y gweinidog i wrthod y datblygiad, dywedodd llefarydd ar ran cwmni RWE Innogy UK: "Mae'r ffaith fod y cais hwn wedi cael ei wrthod, er bod y cynllun yn cydymffurfio gyda pholisi Llywodraeth Cymru ar ynni adnewyddadwy a ffermydd gwynt ar y tir yn hynod o siomedig a rhwystredig.
"Mae'r cynllun yn ymgorffori tua £50m mewn buddsoddiad cyfalaf ynghyd â swyddi lleol, prentisiaethau a buddsoddiad cymunedol blynyddol o £240,000.
"Fe fydd yn rhaid i ni adolygu'r rhesymau tu ôl i'r penderfyniad gyda golwg i ail-gyflwyno cais Tir Comin, er mwyn diogelu'r manteision hyn i Gymru ac i'r amgylchedd ehangach."