Dadorchuddio cofeb i roddwyr organau mewn ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae ffenestr o wydr lliwgar i goffau pobl sydd wedi rhoi organau wedi cael ei dadorchuddio mewn ysbyty yn Abertawe.
Mae'r gwaith gwydr mewn coridor yn Ysbyty Treforys sydd yn cysylltu adeilad newydd £60m i gleifion allanol gyda gweddill yr ysbyty.
Darlun o fywyd blodyn sydd ar y gofeb wydr, gafodd ei ddylunio gan Katie Allen a'i greu gan Simon Howard.
Mae geiriau yn Gymraeg a Saesneg o amgylch y gwydr wedi eu hysgrifennu gan Menna Elfyn.
Mae cofrestr newydd gan y Gwasanaeth Iechyd wedi ei lansio drwy Brydain sydd yn galluogi pobl i gofrestru eu bwriad i roi neu beidio â rhoi organau. Mae'r gofrestr wedi bod yn weithredol yng Nghymru ers mis Mehefin.
O 1 Rhagfyr, os na fydd person sy'n byw yng Nghymru wedi cofrestru eu bwriad o ran rhoi organau, yna fe fydd yr awdurdodau iechyd yn cymryd yn ganiataol nad oes gwrthwynebiad gan yr unigolyn i roi organau.
Ni fydd y gyfraith yn newid mewn rhannau eraill o'r DU.