Cyhuddo cyn uwcharolygydd

  • Cyhoeddwyd
Asiantaeth Troseddau Prydeinig

Mae cyn uwcharolygydd 78 oed wedi ei gyhuddo o bum trosedd o ymosodiadau rhyw a dwy drosedd o ymosodiadau rhyw difrifol oherwydd ymchwiliad yr Asiantaeth Troseddau Prydeinig.

Fe honnir fod Gordon Anglesea o Hen Golwyn wedi cam-drin tri bachgen yn rhywiol rhwng 1979 a 1987 pan oedden nhw rhwng 11 ac 16 oed.

Roedd yn gweithio am gyfnod hir yn yr wythdegau yn ardal Wrecsam.

Cafodd ei arestio gan swyddogion Ymgyrch Pallial ym mis Rhagfyr 2013.

Mae'r ymgyrch yn ymchwilio i honiadau o gamdriniaeth hanesyddol mewn cartrefi gofal yng ngogledd Cymru.

Mae Gordon Anglesea wedi ei ryddhau ar fechnïaeth amodol ac fe fydd yn Llys Ynadon yr Wyddgrug ar 6 Awst.

Fe yw'r 18fed i gael ei arestio oherwydd Ymgyrch Pallial.