Pump yn yr ysbyty wedi damain rhwng dau gar

  • Cyhoeddwyd

Mae pump o bobl wedi cael eu cymryd i'r ysbyty yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gar yn Sir y Fflint.

Fe gafodd un o'r rhai anafwyd eu cludo mewn hofrennydd i uned trawma arbenigol yn Ysbyty Brenhinol Prifysgol Stoke mewn cyflwr difrifol yn dilyn y digwyddiad ar yr A5104 yn Nhreuddyn ger Yr Wyddgrug am 07:45 fore Iau.

Cafodd y pedwar arall eu cludo i Ysbyty Maelor yn Wrecsam.

Bu'r ffordd ar gau wrth i'r ddau gar, Ford Ka a Peugeot 208, gael eu cymryd o'r lleoliad.

Mae Heddlu'r Gogledd yn apelio i dystion gysylltu â nhw ar 101.