Anfodlonrwydd ymysg Merched y Wawr ynglŷn â derbyn MBE
- Cyhoeddwyd

Mae Pwyllgor Llywio mudiad Merched y Wawr wedi bod yn trafod y cwynion maen nhw wedi eu derbyn yn sgil penderfyniad eu Cyfarwyddwraig Cenedlaethol, Tegwen Morris, i dderbyn anrhydedd yr MBE oddi wrth y Frenhines.
Fe gafodd y mater ei drafod yng nghyfarfod y pwyllgor ym mhencadlys y mudiad yn Aberystwyth ddydd Iau.
Wedi'r drafodaeth cafodd y BBC air gyda Meryl Davies, Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr.
Dywedodd mewn datganiad: "Ni wnaethpwyd yr enwebiad yn enw Merched y Wawr.
"Yn ail, fe'i dyfarnwyd am wasanaeth i iaith a diwylliant ac am waith elusennol a gwirfoddol yn Aberystwyth a thramor. Cydnabyddiaeth am waith Tegwen yn y gymuned leol a thu hwnt.
"Ac yn drydydd, dewis yr unigolyn yw derbyn."
"Roedd pawb (yn y pwyllgor llywio) yn fodlon derbyn eu rhesymau hi, ac ar ddiwedd y dydd ei dewis personol hi ydy o p'run bynnag.
"Dwi ddim yn meddwl bod gan unrhyw unigolyn yr hawl i fynd yn groes i ddewis neb arall."
Anfodlonrwydd
Mae sawl aelod o'r mudiad wedi lleisio eu hanfodlonrwydd ynglŷn â phenderfyniad Ms Morris i dderbyn yr MBE, gyda rhai'n cysylltu gyda'r wasg ac yn rhannu eu teimladau ar wefannau cymdeithasol.
Wrth holi a oedden nhw yn pryderu ynglŷn â'r feirniadaeth, dywedodd Ms Davies: "Mae 'na rywfaint o anesmwythder wedi bod - rhai yn fwy nac eraill.
"Mae 'na wahaniaeth barn fawr rhwng llawer iawn o aelodau, ond mae 'na lawer iawn yn bositif ac mae 'na wahaniaeth barn yn y positifrwydd hefyd. Felly mae 'na ystod eang o farn, ond mae 'na rai positif hefyd."
Wrth ofyn a oedd 'na gefnogaeth i Tegwen Morris yn y cyfarfod, dywedodd Ms Davies fod 'na "gefnogaeth i waith Tegwen bob amser".