Cyfarfod i drafod dyfodol hofrennydd Heddlu Dyfed Powys
- Cyhoeddwyd

Bydd grŵp o Aelodau Seneddol, Aelodau Cynulliad a chynghorwyr sir y canolbarth a'r gorllewin yn cwrdd â Phrif Gwnstabl Heddlu Dyfed-Powys, Simon Price, ddydd Gwener i drafod y gwasanaeth hofrennydd.
Fel rhan o gynllun ad-drefnu, bwriad Gwasanaeth Awyr Cenedlaethol yr Heddlu (NPAS) yw cau lleoliad presennol hofrennydd Heddlu Dyfed-Powys ym Mhenbre, ger Llanelli.
Mae'r cyfarfod rhwng Mr Price a'r gwleidyddion yn un preifat.
Dywed NPAS y bydd yr ardal yn cael ei gwasanaethu gan hofrennydd wedi ei leoli ym Mhenarlâg yn Sir Fflint ac un arall sydd wedi ei leoli yn Sain Tathan.
Ond mae nifer o wleidyddion lleol yn anhapus gan ddweud nad na fydd y drefn newydd yn cynnig cystal gwasanaeth.
£890,000
Fe fydd Heddlu Dyfed Powys yn cyfrannu £890,000 y flwyddyn tuag at y gwasanaeth newydd.
Daeth cadarnhad ym mis Chwefror eleni na fydd yr hofrennydd yn gweithredu o 1 Ionawr 2016, a bydd y safle ym Mhenbre yn cau yn ogystal.
Yr wythnos diwethaf fe wnaeth Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ddweud ei bod yn bwysig achub y gwasanaeth o Benbre.
Pan wnaeth y cyhoeddiad fe ddywedodd Mr Price ei fod o'n siomedig ac yn poeni sut y byddai'r newid yn effeithio ardal wledig ac eang fel Dyfed Powys.
Mae Christopher Salmon, Comisynydd Heddlu a Throseddu Dyfed Powys yn dweud ei fod o a'r prif gwnstabl wedi bod yn trafod y sefyllfa gyda NPAS gan ganolbwyntio ar "anghenion ein cymunedau".
"Ni fyddaf yn cytuno i unrhyw wasanaeth sydd ddim yn cyrraedd anghenion ein hardal neu sydd ddim yn cyd-fynd â'r hyn ydyn ni'n ei dalu amdano."