Rutherford yn rhwystro Morgannwg rhag ennill
- Cyhoeddwyd

Sgoriodd Colin Ingram 89 o rediadau i Forgannwg
Batio gwych Hamish Rutherford wnaeth rwystro Morgannwg rhag cael pumed fuddugoliaeth yn yr Ail Adran.
Ond oherwydd 13 o bwyntiau mae Morgannwg yn drydydd yn yr Ail Adran wedi gêm gyfartal yn erbyn Sir Derby yn Chesterfield.
Sir Gaerhirfryn sy'n gynta a Surrey'n ail.
Roedd Colin Ingram wedi sgorio 89 o rediadau i'r ymwelwyr.
Llwyddodd Rutherford o Seland Newydd i sgorio 108 o rediadau wedi i'w dîm fatio eto am eu bod ar ei hôl hi o 158 o rediadau.
Cafodd Rutherford ei ddal goes o flaen wiced gan David Lloyd ond roedd Madsen yn 79 heb fod allan pan ddaeth y gêm i ben, Sir Derby yn 281-3.
Dyw Sir Derby ddim wedi ennill yn Chesterfield ers 2008.