Bala 2-1 Differdange 03
- Cyhoeddwyd

Colin Caton, rheolwr y Bala
Er iddynt guro Differdange 03 nos Iau mae'r Bala allan o Gynghrair Europa ar ôl colli dros ddau gymal 4-3.
Roedd tîm Colin Caton 2-0 ar y blaen ar ôl 82 munud diolch i goliau Conall Murtagh ac Ian Sheridan.
Byddai hynny wedi sicrhau lle yn y rownd nesa, a gem yn erbyn tîm Trabzonspor o Dwrci yn Stadiwm Caerdydd.
Ond yna sgoriodd Er Rafik ar ol 90 munud i'r tîm o Lwcsembwrg gan ddryllio breuddwydion y Bala.