Valletta FC 1-2 Y Drenewydd
- Cyhoeddwyd

Chris Hughes rheolwr y Drenewydd
Y Drenewydd yw'r unig dîm o Gymru i sicrhau lle yn rownd nesa cynghrair Europa ar ôl iddynt guro Valletta ym Malta.
Roedd y tîm o Gymru 2-1 ar y blaen ar ôl y cymal cyntaf a dyna hefyd oedd y sgôr yn yr ail gymal.
Byddant nawr yn wynebu FC Copenhagen yn y rownd nesaf.
Jason Oswell sgoriodd gyntaf i'r ymwelwyr dim ond i Thierry Fidjeu-Tazemeta ddod a'r sgôr yn gyfartal.
Method Matty Owen gyda chic o'r smotyn ond llwyddodd i selio'r fuddugoliaeth gyda gôl ar ôl 86 munud.
Fe wnaeth y ddau dîm orffen gyda deg dyn -cardiau coch i Ryan Camilleri a Matthew Cook