Datblygu castell Harlech i greu 'llu o fuddion economaidd'
- Cyhoeddwyd

Bydd cynllun gwerth £5.9m i ail-ddatblygu un o gestyll Gwynedd yn creu "llu o fuddion economaidd" i fusnesau lleol, yn ôl arbenigwr.
Mae canolfan ymwelwyr a gwesty newydd wedi eu datblygu yng Nghastell Harlech, yn ogystal â phont newydd.
Y gobaith yw y bydd y cynllun, gafodd ei ariannu gan Brosiect Twristiaeth Treftadaeth gwasanaeth Cadw, yn denu mwy o dwristiaid i'r ardal.
Dywedodd Siambr Fasnach Gogledd Cymru a Gorllewin Sir Caer y byddai buddion economaidd "cadarn".
Dywedodd y cyfarwyddwr, Colin Brew bod y datblygiad "eisoes wedi cael effaith bositif yn nhermau cyfleoedd i fusnesau lleol a hybu'r gadwyn gyflenwi leol".
Ychwanegodd y byddai'n parhau i ddatblygu, ac y bydd yn "atyniad allweddol i ymwelwyr" gogledd Cymru.
Daeth ei sylwadau wrth i Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ymweld â'r safle.
Dywedodd bod dros 8,000 o bobl yng Ngwynedd wedi eu cyflogi yn y sector treftadaeth - 15% o gyflogaeth y sir.
"Felly mae'n hanfodol ein bod yn parhau i wella twristiaeth treftadaeth i ddenu hyd yn oed mwy o ymwelwyr," meddai.