Y Storm 'yn mynd o nerth i nerth'
- Cyhoeddwyd
Llyr Edwards fu draw i weld un o ymarferion olaf y band cyn y gig arbennig
Llyr Edwards fu draw i weld ymarferion olaf band ifanc o Feirionnydd cyn gig go arbennig.
Canu a chwarae o flaen 10,000 o bobl ar ôl cael gwahoddiad gan Robert Plant. Dyna fyddai'r freuddwyd roc a rôl i lawer.
Wel, mae'r freuddwyd yn cael ei gwireddu y penwythnos hwn i fand ysgol gynradd Y Storm o Lanuwchllyn, fydd yn perfformio o flaen miloedd yng ngwyl Forest Live yn Sir Stafford.
Mae 'na gysylltiad rhwng Robert Plant a rhieni dau aelod o'r band, a cymaint mae Robert Plant wedi mwynhau eu cerddoriaeth, mae o wedi estyn gwahoddiad iddyn nhw i berfformio yn yr wyl.
Mae'r Storm yn mynd o nerth i nerth a'r penwythnos hwn mi fydd miloedd lawer yn cael clywed am y Cadno Coch a chaneuon eraill yn Sir Stafford.
Mae aelodau'r Storm yn ddisgyblion yn ysgol OM Edwards Llanuwchllyn ac eisioes wedi profi cryn lwyddiant mewn eisteddfodau ac ati.
Mi fydd cyfle i eisteddfodwyr Meifod gael clywed Y Storm ar y sadwrn cynta yn y Caffi yn Maes B am dri o'r gloch.