Monk: Cytundeb tair blynedd gydag Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae rheolwr Abertawe, Garry Monk wedi arwyddo cytundeb newydd tair blynedd o hyd gyda'r Elyrch.
Roedd gan Monk ddwy flynedd ar ôl ar ei gytundeb presennol, ond mae'r fargen newydd yn ei gadw yn Abertawe tan 2018.
Fe arweiniodd yr Elyrch at eu safle uchaf erioed yn Uwchgynghrair Lloegr - wythfed - y tymor diwethaf, ac ef oedd rheolwr y mis ym mis Awst y llynedd.
Nawr, mae'r garfan yn paratoi at y tymor nesaf, gan hedfan i'r Almaen am wythnos o hyfforddi, fydd yn cynnwys gemau yn erbyn Borussia Monchengladbach a 1860 Munich.
Fe ddywedodd cadeirydd y clwb, Huw Jenkins ei fod wrth ei fodd eu bod nhw wedi sicrhau dyfodol Monk.