Cytundeb BBC yn 'peryglu'r economi a'r iaith'
- Cyhoeddwyd

Mae cytundeb trwyddedau'r BBC yn "annemocrataidd a phryderus" sy'n rhoi darlledu yng Nghymru mewn sefyllfa "ddifrifol o beryglus," yn ôl Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad.
Mae datganiad trawsbleidiol gan Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad wedi mynegi pryder am effaith newidiadau i drwydded deledu'r BBC ar Gymru gafodd eu cytuno yn gynharach yn yr wythnos.
Mae Llywodraeth Cymru yn bryderus iawn na fu trafodaethau rhwng Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru cyn gwneud y cyhoeddiad yn gynharach yr wythnos hon.
Hefyd mae'r grŵp yn galw am sicrwydd na fydd rhoi trwyddedau teledu am ddim i'r rheiny dros 75 oed yn golygu toriadau i raglenni a gwasanaethau BBC Cymru.
'Peryglu economi ac iaith'
Dywedodd Gweinidogion ac Aelodau'r Cynulliad bod toriadau difrifol i BBC Cymru ac S4C dros y blynyddoedd diwethaf eisoes wedi cyfyngu ar y gwasanaeth.
Fe ddywedodd y datganiad: "Mae Llywodraeth Cymru a Chynulliad Cymru yn disgwyl i'r BBC gadw at eu haddewidion na fydd y cytundeb newydd yma rhwng Llywodraeth San Steffan yn golygu toriadau ariannol ac na fydd effaith ar wasanaethau.
"Mae eisoes yn siomedig mai dim ond awr o raglenni Cymreig wedi eu cynhyrchu yng Nghymru, oni bai am Newyddion a Chwaraeon, sy'n cael eu darlledu i bobl Cymru.
"Gyda'r bygythiad newydd yma i ddyfodol darlledu yng Nghymru, byddai toriadau'n peryglu'r economi a'r iaith Gymraeg.
"Mi fydd toriadau pellach yn cyfyngu eto ar allu BBC Cymru i gwrdd â gofynion eu cynulleidfa."
Dywedodd y datganiad eu bod nawr yn disgwyl i gael eu cynnwys "ymhob trafodaeth bellach" ar Siarter y BBC ar gyfer 2017.
'Cwestiynu cymhelliant'
Mae llefarydd ar ran Ceidwadwyr Cymru - sydd heb arwyddo'r datganiad trawsbleidiol - wedi dweud eu bod yn "cwestiynu gwir gymhelliant y rhai sy'n cefnogi'r datganiad".
"Mae gan Ceidwadwyr Cymru record falch o ddarparu ar gyfer darlledu yn y Gymraeg ac S4C," meddai.
"Fe fyddwn ni yn parhau i sicrhau bod darlledu yn y sector ddarlledu Cymraeg wrth galon llywodraeth y DU."
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: "... tra bod modd gwella'r broses, ein blaenoriaeth oedd cael y fargen orau ar gyfer talwyr ffi drwydded.
"Mae'r BBC yn darparu rhaglenni a gwasanaethau o safon uchel am £2.80 yr wythnos ac mae cynulleidfaoedd yng Nghymru'n gwylio sioeau Saesneg fel Doctor Who, The Game a Casualty sy'n cael eu cynhyrchu yng Nghymru.
"Yn ogystal â newyddion, materion cyfoes a rhaglenni gwleidyddol ar gyfer Cymru, mae nifer o raglenni ar draws teledu, radio ac ar-lein yn arbennig ar gyfer cynulleidfaoedd Cymru ..."