Dirwy i dŷ bwyta ym Mhorthmadog oedd yn 'risg glir'
- Cyhoeddwyd

Mae tŷ bwyta yr 'Harbour Restauraunt' ym Mhorthmadog wedi derbyn dirwy o £5,000 am droseddau hylendid bwyd.
Yn ychwanegol, cafodd David Alexander Paton orchymyn i dalu £1,281.40 a £120 mewn costau.
Ymysg y troseddau oedd sawl darn o fwyd wedi llwydo, a chig oedd wedi pasio ei ddyddiad bwyta ers canol y flwyddyn ddiwethaf.
Plediodd Mr Paton yn euog o saith trosedd hylendid bwyd yn Llys Ynadon Caernarfon ar 8 Gorffennaf. Yn ychwanegol, cafwyd yn euog o fethu â gweithredu System Rheoli Diogelwch Bwyd o fewn y busnes.
Dywedodd Alun Evans, Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd Diogelwch Bwyd Cyngor Gwynedd: "Fel Cyngor, mae'n ddyletswydd arnom i warchod diogelwch trigolion Gwynedd a phobl sy'n ymweld â'r ardal.
"Mae swyddogion o'r Tîm Diogelwch Bwyd yn cynnal archwiliadau o fusnesau bwyd drwy gydol y sir er mwyn sicrhau fod y bwyd sy'n cael ei baratoi a'i werthu yn ddiogel i'w fwyta.
"Daeth swyddogion ar draws amgylchiadau ym mwyty'r Harbour Restaurant oedd yn peri risg glir a sylweddol i iechyd y cwsmeriaid. Rydym yn croesawu'r gosb a orfodid gan yr Ynadon ac yn credu ei fod yn gyfle amserol i atgoffa busnesau bwyd o'r angen i gydymffurfio a'r gyfraith."
Ychwanegodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy'n gyfrifol am faterion gwarchod y cyhoedd:
"Mae Cyngor Gwynedd wastad yn ceisio gweithio gyda busnesau er mwyn eu helpu i gyrraedd y safonau cywir. Mae'r mwyafrif o fusnesau bwyd yng Ngwynedd yn cymryd materion hylendid bwyd o ddifri' ac mae gan fwy na 93% o'r busnesau sgoriau hylendid bwyd da neu dda iawn.
"Fodd bynnag, mewn ambell achos, nid oes gan yr awdurdod unrhyw opsiwn ond gweithredu'n ffurfiol i amddiffyn diogelwch y cyhoedd."