Tom Jones y naturiaethwr wedi marw
- Cyhoeddwyd

Bu farw'r naturiaethwr, garddwr a chadeirydd Cymdeithas Edward Llwyd, Tom Jones.
Roedd yn cael ei adnabod hefyd fel Tom Golan, ac fe fu farw ddydd Iau yn 67 oed yn dilyn cyfnod o waeledd.
Mae'n gadael gwraig a thri o blant.
Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd ei gyfaill a'i gyd-naturiaethwr Duncan Brown: "O'r ysgol aeth i Goleg Glynllifon lle cyfarfu ag Arfona, ei wraig a'i gariad oes. Mi ddois innau ar ei draws gyntaf yng Nghors Gyfelog yn Eifionydd. Ac yntau yn gipar ar yr afon, cofiaf i ni drafod patrymau symud y dyfrgwn oedd ar y pryd (y 1980au cynnar) yn greaduriaid prin iawn. Fe'm cefnogodd i godi lloches ddyfrgi yn y gors, gan felly chwarae rhan yn yr adferiad syfrdanol a fu ym mhoblogaeth yr anifail hwn yn fuan wedyn.
"Arweiniodd a mynychodd deithiau'r Gymdeithas yn selog, gan ddod â'r newyddion diweddaraf o'r pwyllgorau i sylw'r aelodau ar ddechrau pob taith. Hynny hyd nes i anhwylderau ei sadio.
"Yna mi flodeuodd eto, fel Cadeirydd, am sawl tymor, yn hwy yn wir nag unrhyw Gadeirydd arall ers Dafydd Dafis. Rwyf innau yn fawr yn ei ddyled am y gefnogaeth ddeublyg a roes i Brosiect Llên Natur, hynny fel Cadeirydd ac fel gwirfoddolwr "cyffredin".
"Am flynyddoedd bu'n trawsgrifio yr hen ddyddiaduron ffermwyr Cymraeg oedd mor annwyl iddo. Yn "mewnbwnio 'ron bach" o flaen y tân gefn-gaeaf ar y felltith lap-top yna a fynnai fynd i rhyw drwmgwsg ar yr amser mwyaf anghyfleus. Ni fydd colled ar ôl Tom - bydd gagendor na fydd llenwi i fod arno. Gwerinwr o dras na fydd ei debyg eto. Caiff y teulu'r cysur o gofio bywyd wedi ei fyw i'r pen mewn milltir sgwâr."