Tenis a hunluniau
- Cyhoeddwyd
Mi wnaethon ni eu rhybuddio nhw draw yn SW19 am Catrin Heledd a'i ffôn!
Ond fel y gwelwch chi, wnaeth mawrion Wimbledon ddim cymryd sylw o gwbl. Mae Catrin yn rhannu rhagor o'i hunluniau gyda Cymru Fyw ac yn hel ambell atgof hefyd am y tenis sydd wedi bod yn digwydd yn ne Llundain dros y pythefnos diwethaf:
Am flwyddyn arall mae Pencampwriaeth Wimbledon yn tynnu at ei therfyn. Ar ôl dros 650 o gemau ar gyrtiau gwyrddion a 54,250 o beli, mae'n bryd ffarwelio â Federer, dweud da bo wrth Djokovic a MOMG wrth Murray - tan i ni gwrdd eto ymhen 12 mis hynny yw!
Ac am bythefnos mae hi 'di bod - Serena unwaith eto yn serennu, Andy'r Albanwr yn diddanu a hynny i gyd yn heulwen braf SW19.
Felly wedi 13 diwrnod o gystadlu - beth sy'n aros yn y cof? Gêm y bencampwriaeth o bosib... Heather Watson yn herio Serena Wlliams - Dafydd yn erbyn Goliath - y ferch 21 oed yn mynd ben-ben â'i harwres ar gwrt am y tro cynta. Ac am ornest oedd hi - Watson ddeubwynt yn unig o guro'r un oedd â'i lluniau yn goruchuddio muriau ei 'stafell wely ddeng mlynedd yn ôl.
Mae'r dyddiau o ganu ar gwrt i ddifyrru yn ystod y glaw 'di dod i ben diolch byth ond eleni fe gafodd record ei thorri yn Wimbledon. Torf Henman Hill yn toddi - criw y cwrt canol yn pobi wrth i'r tymheredd gyrraedd 35.7 gradd Celsius gyda gwerthiant eli haul a hufen iâ ar gynnydd o ganlyniad!
Roedd 'na ambell i ddigwyddiad ar gwrt i godi gwên hefyd - Titw Tomos Las yn tarfu ar y tenis wrth i Novak Djokovic herio Phillipp Kohlschreiber - doedd hi ddim yn hir tan bod cyfri trydar dychanol ei hun gan yr aderyn o'dd yn prysur droi'n dipyn o seren!
Ac er ei fod e'n ddigon cyfarwydd ag arwyddo ambell i raglen neu bêl - mae'n siŵr taw dyma'r tro cynta' i Djokovic arwyddo coes brosthetig tra'n gadael y cwrt ar ddiwedd gêm!
Mae Wimbledon yn lle traddodiadol - dyw'r dorf ddim yn un am ormod o sŵn na reiat, ond fe ddaeth "Y Fanatics" i darfu ar y tawelwch eleni.
Yn driw iawn, bu'n rhaid dilyn pob un cystadleuydd o Awstralia gan gynnwys y cymeriad Nick Kyrgios. Ar goedd, trwy gân fe fuon nhw'n cefnogi'n groch a swyddogion y wasg yn Wimbledon druain yn gweld cynnydd mewn cwynion o ganlyniad!
A dyna i chi wedyn yr hunluniau! Her gan Cymru Fyw i gymryd cynifer ag odd yn bosib heb gael fy hebrwng yn go handi drwy'r drws cefn gan swyddog diogelwch blin.
Virginia Wade, Goran Ivanisavic, Judy Murray a Stephen Fry(!) - do 'dwi di llwyddo i'w cael nhw i gyd - daeth rhyw hanner cyfle gyda Djokovich ond nid da lle gellir gwell. Andy yw'r arwr dwi'n anelu amdano! Ymlaen i 2016!