Brechlyn llid yr ymennydd i'w gyflwyno ym mis Medi

  • Cyhoeddwyd
Meningitis

Mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd brechlyn newydd ar gyfer llid yr ymennydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru.

Daw hyn mewn ymateb i'r cynnydd yn nifer yr achosion o lid yr ymennydd yn y DU, ac ar sail cyngor gan Gyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) - y corff cenedlaethol sy'n cynghori llywodraethau am frechlynnau.

Mi fydd y brechlyn yma ar gael o fis Awst i bob myfyriwr dan 25 oed sy'n mynd i'r brifysgol am y tro cyntaf yn yr hydref, ac yn cymryd lle'r pigiad presennol ar gyfer llid yr ymennydd C sy'n cael ei roi i bobl ifanc yn eu harddegau a'r rheini sy'n dechrau yn y brifysgol.

Mae'r cyhoeddiadau yma yn cyd-fynd gyda rhai gan lywodraeth y DU ym mis Mehefin ynglŷn â chyflwyno'r brechlynnau yma ym mis Awst (Men ACWY) a Medi (Men B).

Meddai'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford: "Cymru yw un o'r gwledydd cyntaf yn y byd i gyflwyno rhaglen frechu genedlaethol ar gyfer MenB i helpu i fynd i'r afael ag effeithiau'r clefyd, all fod yn dorcalonnus i blant a'u teuluoedd.

1,200 o bobl

"Rwy'n siŵr y bydd cyflwyno'r brechlyn hwn fel rhan o raglen brechu plant yng Nghymru yn rhoi tawelwch meddwl i deuluoedd.

"Mae'n bleser mawr gen i allu cymeradwyo'r brechlyn MenACWY, a fydd yn amddiffyn pobl ifanc yn eu harddegau yn erbyn sawl ffurf ar y clefyd hwn, gan sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu hamddiffyn ar adeg mor bwysig yn eu bywydau."

Cyhoeddodd llywodraeth Cymru ym mis Mawrth byddai brechlyn yn erbyn meningitis B yn cael ei gyflwyno "cyn gynted ag sy'n ymarferol".

Mae tua 1,200 o bobl - babanod a phlant yn bennaf - yn cael llid yr ymennydd B bob blwyddyn yn y DU ac mae tua un o bob 10 yn marw o'r haint. Cofnodwyd naw achos yng Nghymru ym mhum mis cyntaf 2015.