Cynllun addysg i blant ifanc 'yn draed moch' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Plant

Mae'r cynllun addysg i blant ifanc yng Nghymru ar chwâl, yn ôl academig.

Mae David Dallimore, ymchwilydd ar ofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar ym Mhrifysgol Bangor, yn galw am ailwampio'r ddarpariaeth addysg ar gyfer plant tair a phedair oed.

Dywedodd wrth raglen Eye on Wales ar BBC Radio Wales: "Tydi Cymru ddim y gorau o ran gweledigaeth hirdymor glir ar gyfer blynyddoedd cynnar."

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddan nhw'n ystyried nifer o opsiynau unwaith fyddan nhw'n gwybod manylion y Mesur Seneddol ar Ofal Plant.

Ar hyn o bryd, mae gan blant tair a phedair oed hawl i isafswm o 10 awr o addysg drwy'r cyfnod sylfaen.

Mae pob un o 22 cyngor Cymru yn cael dewis sut maen nhw'n darparu'r oriau hynny i blant tair oed a faint maen nhw'n ei wario.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,
Mae gwaith ymchwil yn dangos amrywiaeth mawr rhwng de a gogledd Cymru

"Mae 'na lefel amrywiol o ddarpariaeth mewn cynghorau gwahanol, mae pethau'n draed moch," dywedodd Mr Dallimore.

Yn Lloegr, mae'r ddarpariaeth yma yn nwylo meithrinfeydd ac ysgolion gwladol.

Y broblem i rieni sy'n gweithio ydi nad yw cynnig 10 awr dros bum niwrnod yn gweddu gydag oriau gwaith.

Bellach, mae galw i addasu'r system at deuluoedd sy'n gweithio drwy sicrhau gwell cyswllt rhwng addysg a gofal plant, a chaniatáu ystod fwy eang o ddarparwyr i fod yn rhan o'r cynllun.

Ymateb

Mae gwaith ymchwil Eye on Wales wedi darganfod gwanhniaeth mawr rhwng y de a'r gogledd. Mae sawl cyngor yn y gogledd, er enghraifft Sir y Fflint a Sir Ddinbych, sy'n rhoi rhagor o opsiynau i rieni.

Wrth i Loegr baratoi i ehangu darpariaeth gofal plant ac addysg blynyddoedd cynnar drwy fesur seneddol newydd, mae nifer yn disgwyl i weld beth fydd ymateb llywodraeth Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Rydym yn glir ynglŷn â phwysigrwydd gofal plant sy'n hawdd ei gyrraedd, yn fforddiadwy ac o safon uchel er mwyn helpu pobl ddychwelyd i'w gwaith, neu i gynyddu eu horiau gwaith.

"Unwaith fydd manylion y Mesur Seneddol ar Ofal Plant ar gael ac unrhyw ganlyniadau ariannol fydd yn deillio ohono, mi fydda ni mewn sefyllfa well i ystyried yr opsiynau ar gyfer Cymru.