Cyngor Caerdydd angen newidiadau 'radical'
- Cyhoeddwyd

Mae angen newidiadau "radical" i wasanaethau cyhoeddus er mwyn sicrhau cyllideb gytbwys yng nghyngor mwyaf Cymru, yn ôl swyddogion.
Dywed Cyngor Caerdydd eu bod nhw'n wynebu diffyg posib o £56.4m y flwyddyn nesaf.
Mae cynghorwyr wedi cael rhybudd i gynllunio ar gyfer godiad o 4.5% yn y dreth gyngor dros y tair blynedd nesaf.
Un syniad o dan drafodaeth ydi creu cwmni i redeg rhai o wasanaethau'r cyngor, fel casglu gwastraff a gweithrediadau priffyrdd.
Mi fydd codiadau treth yn cael eu penderfynu pan fydd y cyngor yn setlo'r gyllideb ym mis Chwefror.
Diffyg hyder
Mae arweinydd Cyngor Caerdydd, Phil Bale, wedi bod o dan bwysau oherwydd cynllun toriadau a chynnydd o 5% yn nhreth y cyngor.
Fe lwyddodd i oroesi pleidlais o ddiffyg hyder gan y cyngor a her i'w arweinyddiaeth o fewn y Blaid Lafur.
Mae adroddiad strategaeth yn dweud bod y cyngor yn wynebu diffyg cyllidebol o £47.4m yn 2016-17, ac mae disgwyl i hyn godi i £117m erbyn diwedd blwyddyn ariannol 2018-19.
Sail hynny yw toriad o £3m gan Lywodraeth Cymru.
Ond mae'r adroddiad yn rhybuddio y gallai'r diffyg godi i £56.4m y flwyddyn nesaf a £145.7m erbyn 2018-19.
Dywedodd cyfarwyddwr cyllid y cyngor, Christine Salter, ei bod i'n bosibl na fydd y cyngor yn gallu sicrhau cyllideb gytbwys "oni bai y caiff polisïau a strategaethau radical eu mabwysiadu yn achos darparu gwasanaethau".
Yn ôl Graham Hinchey, aelod cabinet dros y gwasanaethau corfforaethol a pherfformiad, mae gwaith ar droed ar "fodelau darparu amgen, rheoli perfformiad a datblygiad sefydliadol" i ddelio gyda'r pwysau.
"Caerdydd yw'r ddinas sy'n tyfu cyflymaf yn y DU ac, yn sgîl hynny, mae'r galw am y gwasanaethau a ddarparwn yn tyfu tra bod cyllid yn lleihau," meddai.
"Mae hyn yn ei gwneud hi'n anoddach i ni ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwych."
Ategodd: "Ond mae'n rhaid i ni gofio bod rhai penderfyniadau anodd iawn o'n blaenau. Ni allwn barhau gyda'r sefyllfa bresennol."
Mae'r adroddiad yn awgrymu y dylai'r cyngor ystyried ar unwaith sut i leihau asedau er mwyn codi arian a thorri costau atgyweirio a chynnal a chadw.