Ymosodiadau anweddus: Arestio bachgen 13 oed
- Cyhoeddwyd

Mae bachgen 13 blwydd oed wedi cael ei arestio mewn perthynas ag ymosodiadau anweddus yn Abertawe.
Fe gafodd tri ymosodiad anweddus eu cofnodi yn y ddinas ddydd Sadwrn ac un arall ddydd Mawrth.
Mae'r bachgen yn cael ei holi yng Ngorsaf Heddlu Canol Abertawe.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Mark Kavanagh: "Hoffwn ddiolch i aelodau'r cyhoedd wnaeth ymateb i'n hapêl ar y cyfryngau am wybodaeth sydd wedi helpu'r ymchwiliad."