Ail-frwydr i achub Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Llanbedr

Daeth dros 50 bobl i gyfarfod cyhoeddus mewn pentref yn Sir Ddinbych nos Wener i wrthwynebu bwriad y sir i gau'r ysgol.

Ym mis Ionawr, roedd ymgyrchwyr yn credu bod Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd wedi cael ei hachub pan gafodd y cynllun ei wrthod gan y Gweinidog Addysg Huw Lewis, ar sail diffygion ym mhroses ymgynghori'r sir.

Ond lai na mis yn ddiweddarach, cyhoeddodd y Cyngor bod bwriad i drafod cau'r ysgol unwaith eto.

Pe bai'r cynllun newydd yn cael ei dderbyn, mi fydd Ysgol Llanbedr yn cau yn Awst 2016 a'r disgyblion yn symud i Ysgol Borthyn yn Rhuthun.

Cafodd y cyfarfod ei arwain gan yr Aelod Cynulliad, Darren Millar, ac fe ddywedodd mai dyma'r "ail-ymgynghoriad" gyntaf ar unrhyw ysgol yng Nghymru.

Mae 22 o ddisgyblion llawn amser ac 11 o ddisgyblion rhan amser yn mynychu'r ysgol, sy'n eiddo i'r Eglwys yng Nghymru.

Mae'r Cyngor yn dweud bod angen lleihau'r nifer o lefydd gwag mewn ysgolion, ac y byddan nhw'n ymgynghori'n "ofalus" ar y cynllun i gau'r ysgol cyn i'r borses ddod i ben ar 28 Gorffennaf.