BBC Cymru Fyw

Tân yn llosgi hen gapel

Published
image copyrightPhillip Bunce/Facebook

Mae tân wedi llosgi capel yn ulw yn Aberfan, ger Merthyr Tudful.

Bu'n rhaid i bedwar o bobl adael eu cartrefi ar ôl y tân.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi cael eu galw am 01:51.

Yn 1966 cafodd yr adeilad ei ddefnyddio fel lle ar gyfer cyrff y bobl a fu farw yn dilyn trychineb Aberfan.

image copyrightPhillip Bunce/Facebook