Addysg: 'Gobaith am ganlyniadau gwell'
- Cyhoeddwyd

Huw Lewis: Gobeithio am ganlyniadau gwell
Yn ôl gweinidog addysg Cymru mae yna obeithion am "welliant sylweddol" ym mherfformiad disgyblion o Gymru yn y tabl rhyngwladol sy'n monitro perfformiad gwahanol wledydd.
Dywedodd Huw Lewis wrth raglen Sunday Politics BBC Cymru fod yna lawer wedi digwydd ers canlyniadau siomedig PISA yn 2012.
Ychwanegodd fod plant nawr yn cael eu dysgu mewn modd gwahanol a bod yna newidiadau wedi bod yn y modd mae llythrennedd a rhifyddeg yn cael eu dysgu.
Mae disgwyl i ganlyniadau profion PISA o fis Hydref gael eu cyhoeddi yn gynnar yn 2016.
Fe wnaeth tua 500,000 o blant 15 oed mewn 68 o wledydd gymryd rhan yn y profion mathemateg, darllen a gwyddoniaeth
Bydd rhaglen Sunday Politics Wales yn cael ei darlledu ar BBC One Cymru Wales am 11:00 ddydd Sul.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol