Plentyn yn syrthio o gar
- Cyhoeddwyd

Aed â phlentyn i'r ysbyty ar ôl iddo syrthio o gar limousine du ym Mhowys.
Dywed yr heddlu fod y plentyn wedi cael triniaeth yn dilyn y digwyddiad tua 13:15 ddydd Sadwrn rhwng Caersws a Charno ar yr A470
Bu'r ffordd ar gau am gyfnod.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion i'r digwyddiad.