Mwy o blaid aros o fewn yr UE
- Cyhoeddwyd
Yn ôl arolwg barn mae mwy o bobl Cymru yn debygol o bleidleisio i aros o fewn yr Undeb Ewropeaidd nag sydd yna am adael.
Fe fydd refferendwm ar ddyfodol Prydain o fewn yr UE yn cael ei gynnal erbyn diwedd 2017.
Yn ôl arolwg Beaufort Wales Omnibus roedd 26% o'r 1,000 gafodd eu holi am aros o fewn yr Undeb.
Mae hynny ddyw waith yn fwy na'r nifer oedd am adael.
Roedd nifer mawr yn dweud y byddai eu pleidlais yn dibynnu ar ganlyniad ymgais y prif weinidog David Cameron i ail drafod cytundeb Prydain gyda'r UE.
Roedd eraill yn dweud nad oedd ganddynt farn ar hyn o bryd neu yn dweud na fyddant yn pleidleisio.