S4C: Yr her fwyaf yn ei hanes?

  • Cyhoeddwyd
Roedd 'na ansicrwydd mawr i'r cyfryngau yng Nghymru ym mriffces coch y Canghellor
Disgrifiad o’r llun,
Roedd 'na ansicrwydd mawr i'r cyfryngau yng Nghymru yng nghyllideb ddiweddara'r Canghellor

Mae yna ansicrwydd mawr ym myd y cyfryngau Cymraeg, yn enwedig ar ôl y cyhoeddiad ynglŷn ag ariannu'r BBC yn y Gyllideb ar 8 Gorffennaf.

Yn amserol iawn, mae cyhoeddiad George Osborne yn cyd-daro gyda chyfres newydd 'Cyflwr y Cyfryngau' ar BBC Radio Cymru.

Cyflwynydd y rhaglen ydi'r bargyfreithiwr Gwion Lewis. Yma mae'n pwyso a mesur arwyddocâd y datblygiadau newydd i wasanaethau cyfryngol yma yng Nghymru:

"Storm"

Mae'n dda o beth fy mod i'n tueddu i weithio orau dan bwysau.

Pan ddarlledwyd rhaglen gyntaf fy nghyfres 'Cyflwr y Cyfryngau' ar BBC Radio Cymru ddydd Llun diwethaf, yn pwyso a mesur dyfodol darlledu yng Nghymru, nid oedd arwydd o gwbl o'r storm oedd yn magu yng nghoridorau'r Adran Ddiwylliant yn San Steffan.

Ddydd Mercher, ddeuddydd yn unig wedi i ni ddechrau'r gyfres, daeth y cyhoeddiad fod y BBC a Llywodraeth y DU wedi dod i delerau â'i gilydd ynglŷn â setliad ariannol y BBC am y 10 mlynedd nesaf.

Disgrifiad o’r llun,
Mae'r ffyrdd y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau'r BBC ac S4C wedi newid

Y drwydded deledu

Ydi, mae'r drwydded deledu yn cael aros am ddegawd arall ac, am y tro cyntaf ers saith mlynedd, bydd ffi'r drwydded yn cael codi yn unol â chwyddiant.

Ond mae'r BBC yn gorfod talu pris uchel iawn am y fargen honno. Erbyn 2020, y BBC, nid Llywodraeth y DU, fydd yn gorfod talu am drwyddedau teledu am ddim i bobl dros 75 oed. Y gost? Tua £650 miliwn.

Mae hyn tua'r un faint ag y mae'r BBC yn ei wario ar ei holl wasanaethau radio ym Mhrydain.

Er gwaethaf ymdrechion Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, Tony Hall, i geisio tawelu'r dyfroedd yn gyhoeddus drwy ddweud fod hwn yn gytundeb da i'r Gorfforaeth mewn hinsawdd economaidd "anodd", mae'n hynod debygol y bydd angen iddi gau un o'i phrif wasanaethau, maes o law, er mwyn cael deupen y llinyn ynghyd.

Eisoes, mae si y bydd y sianel newyddion, BBC News, yn cael ei throi'n sianel ar y we yn unig er mwyn gwneud arbedion. Mae'r fwyell sydd wedi hofran uwchben BBC4 ers tro hefyd yn nes at ei tharged yn dilyn y cyhoeddiad yr wythnos hon.

Disgrifiad o’r llun,
Sut fydd y berthynas rhwng y BBC ac S4C yn yr hinsawdd newydd?

Effaith ar S4C?

Ond yn naturiol, goblygiadau'r fargen ar gyfer S4C sydd wedi hawlio'r penawdau yng Nghymru. Gan fod y sianel Gymraeg hefyd yn cael ei hariannu'n helaeth o bot y drwydded deledu erbyn hyn, mae'n "rhesymol", meddai Ysgrifennydd Diwylliant y DU, John Whittingdale, disgwyl i S4C wneud arbedion pellach hefyd.

Nid gormodiaith yw dweud fod y geiriau hyn wedi ysgwyd y diwydiant teledu yng Nghymru i'r byw.

Eisoes, mae S4C wedi colli o leiaf chwarter y gyllideb oedd ganddi bum mlynedd yn ôl. I'r rheini ohonom sy'n wylwyr selog y sianel, mae'r diffyg arian yn amlwg ar y sgrîn erbyn hyn, gyda rhaglenni blinedig yr olwg o'r archif yn llenwi'r oriau brig yn llawer rhy aml.

'Does dim dwywaith amdani: byddai unrhyw doriadau sylweddol pellach yn ergyd farwol i'r diwydiant cynhyrchu annibynnol yng Nghymru ac yn ei gwneud hi'n amhosibl i S4C gynnig digon o raglenni o safon i gystadlu yn y byd digidol.

Mae pethau'n symud yn sydyn iawn ar hyn o bryd. Wrth i S4C wynebu'r her fwyaf eto yn ei hanes, ni allai'r gyfres 'Cyflwr y Cyfryngau' fod yn fwy amserol.

Ailwampio

Disgrifiad o’r llun,
Rownd a Rownd, un o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C

Ydi, mae hynny'n golygu ailwampio'r rhaglenni wrth i ni fynd yn ein blaenau i ymateb i'r datblygiadau diweddaraf, ond felly y dylai hi fod.

Yn yr ail bennod yr wythnos hon, ydi Llywodraeth y DU yn cosbi S4C am gael ei rhedeg yn wael yn y gorffennol?

Oes yna gynllun o gwbl yn San Steffan ar gyfer ariannu darlledu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ddigonol yn y dyfodol? Ac ai her gynyddol y byd digidol yn unig sydd i'w beio am y gostyngiad sylweddol yn ffigyrau gwylio S4C, ynteu oes yna resymau eraill?

Rywsut, mi gawn ni hefyd amser i ymweld â set 'Rownd a Rownd', rhoi llinyn mesur ar Tommo druan, gofyn beth aeth o'i le yn Radio Beca, a holi'r Dirprwy Weinidog Diwylliant ym Mae Caerdydd beth yn union mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd i bledio achos S4C.

Rhaglen lawn dop, heb wastraff, yn gwneud y defnydd gorau posib o'r adnoddau cyhoeddus sydd ar gael. Byddai John Whittingdale yn falch ohoni.

Disgrifiad o’r llun,
Gwion Lewis

Hefyd gan y BBC