Ymchwiliad i achos tân

  • Cyhoeddwyd
Capel Aberfan after the fireFfynhonnell y llun, Phillip Bunce/Facebook

Mae pobl sy'n byw gerllaw capel a ddifrodwyd gan dân yn ardal Merthyr wedi cael mynd yn ôl i'w cartrefi.

Parhau mae'r ymchwiliad i achos y tân wnaeth ddinistrio Capel Aberfan.

Cafodd rhai o'r bobl oedd yn byw wrth ymyl y capel eu symud o'u cartrefi rhag ofn i'r tân ledu.

Fe fydd swyddogion y cyngor nawr yn penderfynu a ddylid dymchwel yr adeilad.

Cafodd Capel Aberfan, sy'n dyddio nôl i 1876, ei ddinistrio yn llwyr gan y tân ddechreuodd tua 01:51 ddydd Sadwrn.

Mae swyddogion Heddlu'r De yn cydweithio gyda diffoddwyr mewn ymdrech i ddod o hyd i achos y tân.

Mae'r capel wedi bod ar gau ers 2012, ond roedd gwasanaethau yn parhau i gael eu cynnal o bryd i'w gilydd.

Roedd yna hefyd gynllun i geisio adfer y capel a'i ddefnyddio fel adnodd i'r gymuned.

Yn 1966 cafodd yr adeilad ei ddefnyddio fel lle ar gyfer cadw cyrff y bobl a fu farw yn dilyn trychineb Aberfan.

Ffynhonnell y llun, Phillip Bunce/Facebook