Cyn AS yn beirniadu Nick Clegg yn hallt
- Cyhoeddwyd

Roedd ymgyrch etholiadol y Democratiaid Rhyddfrydol yn ddifflach ac roedd perfformiad yr arweinydd Nick Clegg yn drychinebus yn nadl gyntaf yr arweinyddion yn ôl y cyn AS Jenny Willott.
Dywedodd Jenny Willot, cyn AS Canol Caerdydd, nad oedd hi'n gweld yr ymgyrch fel un ysbrydoledig, ac "os nag oeddwn i yn gweld hynny rwy'n siwr bod hyn yn wir am eraill."
Mewn cyflweliad gyda BBC Cymru dywedodd fod y blaid mewn sefyllfa wael iawn ond roedd hi yn sicr y byddant yn taro nôl.
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol dywedodd Mr Clegg y byddai'r Democratiaid yn rhoi calon i unrhyw glymblaid gyda'r Torïaid, ac yn rhoi deallusrwydd i glymblaid gyda Llafur.
"Mae dweud dydy ni ddim mor ddrwg â nhw, a dydy ni ddim mor ddrwg â'r lleill roedd yn gas gennyf glywed hynny," meddai Ms Willott wrth raglen Sunday Supplement ar Radio Wales.
"Ni wnes i gynnwys unrhyw beth tebyg i hynny yn fy mhamffledi i adeg yr etholiad."
Yn 2010 Fe wnaeth Ms Willott roi'r gorau yw swydd fel cynorthwyydd i Chris Huhne, Ysgrifennydd Ynni'r glymblaid rhwng y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol - gwnaeth hynny er mwyn pleidleisio yn erbyn y penderfyniad y glymblaid i godi ffioedd ar fyfyrwyr.
Dywedodd wrth raglen Sunday Politics ar BBC Radio Wales fod perfformiad Mr Clegg wedi bod yn ofnadwy yn y ddadl gynta rhwng yr arweinyddion - ond iddo wella ar ôl hynny.