Addewid ynni adnewyddol gan Blaid Cymru

  • Cyhoeddwyd
Left: PA, centre: Getty, right: GettyFfynhonnell y llun, Other

Bydd rhaid cwrdd a holl anghenion trydan Cymru o ffynonellau ynni adnewyddol o fewn 20 mlynedd, os bydd Plaid Cymru yn ffurfio llywodraeth wedi etholiad y Cynulliad yn 2016.

Dywed y blaid y byddant yn cefnogi cynlluniau cymunedol i gynhyrchu ynni a lleihau defnydd o danwydd ffosil.

Dywedodd Llŷr Gruffydd, llefarydd Plaid Cymru ar ynni, bod Cymru yn cynhyrchu dwywaith gymaint o ynni ac y mae'n ei ddefnyddio, ond dywedodd mai dim ond tua 10% sy'n dod o ffynonellau adnewyddol fel tyrbinau gwynt.

Yn ôl Mr Gruffydd bydd polisïau ei blaid yn creu swyddi a hefyd yn lleihau biliau.

Mae un arbenigwr wedi dweud bod y cynllun yn un realistig, oherwydd cyfoeth adnoddau naturiol Cymru.

'Digon o adnoddau naturiol'

Cafodd y polisi ei lansio ddydd Llun wrth iddo ymweld â Bae Abertawe, lleoliad cynllun arfaethedig i godi lagŵn fydd yn cynhyrchu ynni.

Dywedodd: "Mae Cymru yn genedl sy'n gyfoethog o ran ynni.

"Rydym yn cynhyrchu bron i ddwywaith y trydan rydym yn ei ddefnyddio - ond ar hyn o bryd mae gormod yn dibynnu ar losgi tanwydd ffosil.

Dywedodd y byddai ei blaid yn newid rheolau wrth adeiladau tai - er mwyn sicrhau eu bod yn defnyddio cyn lleied o ynni a phosib.

"Mae angen arwain drwy esiampl a sicrhau fod mwy o adeiladau cyhoeddus yn cynhyrchu ac yn arbed ynni," meddai.

Ffynhonnell y llun, TLP
Disgrifiad o’r llun,
Mae Plaid Cymru eisiau hybu cynlluniau ynni adnewyddol fel lagŵn Bae Abertawe

Mae un arbenigwr mewn ynni adnewyddol wedi dweud bod y cynllun yn un "realistig", oherwydd bod gan Gymru llawer o adnoddau naturiol.

Dywedodd y Dr Ian Masters o Brifysgol Abertawe: "Mae gyda ni wynt, mae gyda ni'r llanw, mae gyda ni'r lle i adeiladu ffermydd solar hefyd, felly mae gyda ni'r cyfleoedd yn nhermau ein hadnoddau naturiol a gyda'r ewyllys wleidyddol dwi'n meddwl ei fod yn gwbl bosib.

"Byddai'n ddrud ond cofiwch ein bod ni'n allforio hanner o'r trydan yr ydyn ni'n ei gynhyrchu i'r DU felly byddwn ni'n cael y swyddi yma yng Nghymru ac yn allforio ynni gwyrdd."

Ychwanegodd bod gan Gymru gyfle i fynd amdani a dilyn trywydd gwledydd fel yr Almaen.

"Mae gan yr Almaen dargedau mawr o ran ynni adnewyddol. Maen nhw wedi penderfynu peidio defnyddio pŵer niwclear ac i ddefnyddio ynni adnewyddol yn lle, sy'n uchelgais mawr.

"Mae gan yr Alban uchelgeisiau mawr hefyd felly dwi'n gobeithio y bydd Cymru yn dilyn y gwledydd yna fel rhywle i roi cyfle i ynni carbon isel."