Galw am ehangu cynllun addysg i gadw plant mewn addysg
- Cyhoeddwyd

Mae yna alwad i gyflwyno cwrs sy'n helpu disgyblion sydd mewn perygl o droi cefn ar addysg drwy Gymru gyfan.
Ar hyn o bryd mae tua 1,000 o bobl ifanc mewn rhannau o'r de yn dilyn cynllun 'Llwyddo', cwrs sy'n dysgu pobl ifanc am bethau fel rheoli risg, rheoli arian, llwyddo yn eu gyrfa a chodi eu hunanwerth.
Mae'n targedu disgyblion blwyddyn 9, gan ganolbwyntio ar y rhai sy'n debygol o beidio â pharhau mewn addysg na chwaith sicrhau cyflogaeth neu hyfforddiant.
Yn ôl y ffigyrau diweddaraf mae 8.9% o blant rhwng 16-18 yn y categori uchod.
Dywed Llywodraeth Cymru fod y canran wedi gostwng o bron i 12% rhwng 2013-14, y lefel isaf ers i gofnodion gael eu casglu.
'Meddwl am y dyfodol'
Dywedodd Gwawr Booth, sy'n gyfrifol am ddatblygu'r rhaglen: "Mae rhai pobl ifanc yn colli eu ffordd ac roeddwn yn awyddus i ddatblygu adnodd oedd yn mynd i wneud iddynt feddwl yn fwy am eu dyfodol a realiti eu sefyllfa.
"Pe bawn ni hefyd yn gallu sicrhau cymhwyster drwy wneud hynny yna mae pawb ar eu hennill.
"Byddwn wrth fy modd o weld y cynllun yn cael ei fabwysiadu ym mhob rhan o Gymru."
Mae Kelly Rowlands yn rheoli ysgol ACT yng Nghaerdydd, sy'n cynnig addysg i blant sydd wedi cael problemau mewn addysg prif ffrwd.
Dywedodd: "Mae'n fwy na'r darn o bapur y maen nhw'n ei gael erbyn y diwedd. Mae o fwy am y sgiliau bywyd y maen nhw'n eu cael yn ystod y broses.
"Wrth iddyn nhw symud drwy'r cymhwyster, mae gwelliant sylweddol yn eu hymddygiad a'u cymhelliant i ddysgu a'u hymrwymiad.
"Yn sicr mae'n un o'r cymwysterau mwyaf llwyddiannus rydyn ni'n ei gynnig."
Straeon perthnasol
- 19 Chwefror 2014
- 10 Gorffennaf 2014
- 19 Chwefror 2014
- 23 Hydref 2009